Neidio i'r cynnwys

AWST 19, 2021
MECSICO

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Micsteg (Guerrero)

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Micsteg (Guerrero)

Ar Awst 8, 2021, rhyddhaodd y Brawd José Nieto, aelod o Bwyllgor Cangen Canolbarth America, Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Micsteg (Guerrero). Cafodd y Beibl ei ryddhau mewn fformat electronig yn ystod rhaglen a oedd wedi ei recordio o flaen llaw ac a gafodd ei ffrydio i gynulleidfa o 785. Mae’r gangen yn gobeithio cychwyn argraffu copïau caled o’r Beibl ym mis Tachwedd 2021, a’u hanfon nhw i’r cynulleidfaoedd yn Rhagfyr 2021 neu Ionawr 2022.

Yn ystod y rhaglen i ryddhau’r Beibl, dywedodd y Brawd Nieto ar ôl darllen 1 Corinthiaid 14:9, “Er mwyn ryddhau grym Gair Duw, mae rhaid i’r Beibl fod ar gael mewn iaith y mae unrhyw un yn gallu ei deall . . . , iaith maen nhw’n ei defnyddio bob dydd.”

Mae Micsteg (Guerrero) yn iaith donyddol, lle mae ystyron gwahanol yn cael eu cyfleu drwy newid tôn y geiriau. Mae’n cael ei siarad gan tua 150,000 o bobl yn nhalaith Guerrero, Mecsico, ac mewn rhannau eraill o Fecsico a’r Unol Daleithiau gan nifer anhysbys o bobl.

Dywedodd y Brawd Lázaro González, aelod o Bwyllgor Cangen Canolbarth America: “Mae siaradwyr Micsteg (Guerrero) yn byw mewn ardal lle mae ’na lawer o dlodi a thrais. Ac mae pethau’n waeth byth nawr gyda’r pandemig COVID-19. O ganlyniad i hyn, mae llawer o bobl yn meddwl bod Duw wedi cefnu arnyn nhw. Ond mae gallu cael rhan o’r Beibl yn eu mamiaith yn arwydd clir bod Jehofa yn gofalu amdanyn nhw.”

Cyn cafodd y Beibl hwn ei ryddhau, dim ond dau gyfieithiad o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol oedd ar gael yn Micsteg (Guerrero). Ond, mae’r cyfieithiadau hyn yn anodd eu deall am eu bod nhw wedi cael eu cyfieithu gan bobl o ddwy gymuned wahanol. Defnyddiodd y cyfieithwyr eirfa a oedd yn cael ei defnyddio yn eu hardal nhw yn unig. Roedd hyn yn gwneud nhw’n anoddach i bobl o ardaloedd eraill eu deall.

Enghraifft o ymadrodd sydd yn haws i’w ddeall nawr yw’r un yn Mathew 5:9, sy’n dweud: “Mae’r rhai sy’n hyrwyddo heddwch wedi eu bendithio’n fawr.” Does dim gair sy’n trosi “heddwch” yn union yn Micsteg (Guerrero). Er mwyn cyfleu’r syniad cywir, cafodd yr adnod ei chyfieithu: “Hapus yw’r rhai sy’n edrych am ffyrdd i osgoi problemau/cwerylau.” Mae hyn yn unol ag ystyr y “rhai sy’n hyrwyddo heddwch.”

Dywedodd un cyfieithydd: “Un o fy hoff adnodau yw 1 Pedr 1:25, sy’n dysgu bod ‘neges yr Arglwydd yn aros am byth.’ Alla i ddim dychmygu fy mywyd heb Feibl, a dw i’n diolch i Jehofa am ei amddiffyn a’i gadw hyd heddiw. A bellach, mae’r Beibl gyda ni yn ein hiaith ein hunain, Micsteg (Guerrero).”

Dywedodd cyfieithydd arall: “Does dim dwywaith amdani fod Jehofa wedi ein cefnogi ni drwy ei ysbryd glân. Dw i’n hollol sicr nad yw ieithoedd yn rhwystr i Jehofa. Mae e wedi dangos unwaith eto nad oes unrhyw beth yn ‘gallu rhwymo neges Duw.’”—2 Timotheus 2:9.