Neidio i'r cynnwys

MEHEFIN 10, 2022
MECSICO

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Nahwatl (Gogledd Puebla)

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Nahwatl (Gogledd Puebla)

Ar Fehefin 5, 2022, gwnaeth y Brawd Edward Bunn, aelod o Bwyllgor Cangen Canolbarth America, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Nahwatl (Gogledd Puebla) mewn fformatiau printiedig a digidol. Gwyliodd dros 1,500 y rhaglen oedd wedi ei recordio o flaen llaw, ac a gafodd ei ffrydio i’r gynulleidfa.

Mae’r mwyafrif o siaradwyr Nahwatl (Gogledd Puebla) yn byw yn nhaleithiau Puebla a Veracruz ym Mecsico. Cafodd y cynulleidfaoedd cyntaf yn Nahwatl (Gogledd Puebla) eu sefydlu yn 2002. Hyd yma, roedd y cyhoeddwyr yn y maes yn dibynnu ar gyfieithiad brodorol o’r Beibl sy’n disodli enw Jehofa gyda theitlau fel Arglwydd a Duw.

Yn ystod ei anerchiad, dywedodd y Brawd Bunn: “A gawn ni eich annog i fynd ati’n syth i ddarllen y cyfieithiad hwn o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Cewch wneud hynny yn gwbl hyderus ei fod yn cyfleu’n ffyddlon neges Duw yn eich iaith chi.”

Rydyn ni’n hyderus y bydd y cyfieithiad newydd yn cryfhau ein brodyr a’n chwiorydd sy’n siarad Nahwatl (Gogledd Puebla) a’u helpu i rannu’r newyddion da am Deyrnas Dduw.—Marc 13:10.