Neidio i'r cynnwys

MAWRTH 2, 2022
MECSICO

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Tlapaneg

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Tlapaneg

Ar Chwefror 27, gwnaeth y Brawd Carlos Cázares, aelod o Bwyllgor Cangen Canolbarth America, ryddhau fersiwn digidol o Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Tlapaneg. Bydd copïau printiedig ar gael hwyrach eleni. Cafodd y rhaglen oedd wedi ei recordio o flaen llaw ei ffrydio i gynulleidfa o 820 o bobl.

Dechreuodd y prosiect cyfieithu ym mis Gorffennaf 2020, yn ystod y pandemig COVID-19. “Er inni wynebu sawl her,” meddai un cyfieithydd, “roedd yn anhygoel sut roedden ni’n gallu gorffen mewn blwyddyn a hanner. Cyflymodd Jehofa’r gwaith.”

Mae’r swyddfa cyfieithu Tlapaneg wedi ei lleoli yn Tlapa, Guerrero, Mecsico. Mae gan y tîm cyfieithu dri llawr uchaf yr adeilad

Mae’r cyfieithiad newydd yn cynnwys ymadroddion sydd yn haws i ddarllenwyr heddiw eu deall. Er enghraifft yn Mathew 5:3, roedd cyfieithiadau cynt yn ei drosi: “Hapus bydd y rhai sy’n gwybod na fedran nhw wneud unrhyw beth heb i’r ysbryd glân eu helpu,” neu “Hapus yw’r rhai sydd ag ysbryd gwan.” Ar y llaw arall, mae Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn dweud: “Hapus yw’r rhai sy’n sylweddoli eu bod nhw angen chwilio am Dduw.”

Bydd y cyfieithiad newydd hwn yn helpu cyhoeddwyr i fod yn fwy effeithiol yn eu gweinidogaeth. Yn ei anerchiad, dywedodd y Brawd Cázares: “Mae’r hollalluog Dduw eisiau i bobl clywed y newyddion da yn eu hiaith eu hunain, yr un maen nhw’n siarad bob dydd, ac nid un maen nhw’n cael trafferth ei deall.”

Llawenhawn gyda’n brodyr a chwiorydd Tlapaneg eu hiaith dros y cyhoeddiad newydd hwn wrth inni wasanaethu Jehofa gyda’n gilydd.—Seffaneia 3:9.