Neidio i'r cynnwys

MEHEFIN 23, 2021
MECSICO

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Tsioleg

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Tsioleg

Ar Fehefin 20, 2021, cyflwynodd y Brawd Robert Batko, aelod o Bwyllgor Cangen Canolbarth America, Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Tsioleg. Cafodd y Beibl ei ryddhau mewn fformat electronig yn ystod rhaglen a chafodd ei recordio o flaen llaw a’i ffrydio i gynulleidfa o tua 800.

Prif Ffeithiau’r Prosiect

  • Mae Tsioleg yn iaith frodorol sy’n cael ei siarad rhan fwyaf yn nhalaith Chiapas, yn ne-ddwyrain Mecsico

  • Mae tua 200,000 yn siarad Tsioleg

  • Mae mwy ’na 500 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn 22 gynulleidfa a 2 grŵp Tsioleg eu hiaith

  • Gweithiodd 3 chyfieithydd am 27 mis i gwblhau’r prosiect

Dywedodd brawd oedd wedi helpu gyda’r prosiect cyfieithu: “Mae’r cyfieithiad newydd yn defnyddio geiriau cyffredin ’dyn ni’n eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd. Dw i’n mwynhau darllen pob pennod.”

Dywedodd brawd arall: “Mi fedra i ddarllen y Beibl yn Sbaeneg, ond pan fydda i’n darllen y cyfieithiad hwn yn Tsioleg, fy mamiaith, mae’n cynhesu fy nghalon. Mae fel mwynhau pryd o fwyd blasus wedi ei baratoi gan Mam.”

Gwyddon ni y bydd y Beibl hwn yn helpu ein brodyr Tsioleg eu hiaith wrth iddyn nhw chwilio am “drysor wedi ei guddio” yng Ngair Duw, y Beibl.—Diarhebion 2:4, 5.