GORFFENNAF 23, 2021
MECSICO
Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Tojolabal
Ar Orffennaf 18, 2021, rhyddhaodd y Brawd Arturo Manzanares, aelod o Bwyllgor Cangen Canolbarth America, Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Tojolabal.
Mae’r iaith Tojolabal yn cael ei siarad gan fwy na 66,000 o bobl, gan mwyaf yn nhalaith Chiapas, Mecsico, yn ne-ddwyrain y wlad, yn y rhan sy’n ffinio â Gwatemala. Cafodd y Beibl ei ryddhau mewn fformat electronig yn ystod rhaglen a oedd wedi ei recordio o flaen llaw ac a gafodd ei ffrydio i gynulleidfa o tua 2,800.
“Pam bod angen cyfieithiad o’r Beibl yn Tojolabal?” gofynnodd y siaradwr yn ystod y rhaglen. Aeth ymlaen i ateb: “Oherwydd ei fod yn bwysig i gael Beibl sy’n anrhydeddu ei Awdur, Jehofa.”
Dywedodd chwaer oedd wedi helpu yn y gwaith cyfieithu: “Pan ddarllenais Ioan 5:28, 29 mi wnaeth hynny gyffwrdd â nghalon. O’n i’n bron yn gallu gweld fy mam yn cael ei hatgyfodi. Dw i wedi darllen yr adnodau hynny llawer o weithiau yn Sbaeneg, ond nawr wrth imi eu darllen yn fy iaith fy hun, dw i’n eu deall nhw gymaint yn well. Diolch yn fawr iawn!”
Yn ystod y prosiect, symudodd y tîm cyfieithu o gangen Canolbarth America, ger Dinas Mecsico, i’w swyddfa gyfieithu newydd yn Las Margaritas, Chiapas. Mae’r swyddfa bellach mewn ardal Tojolabal ei hiaith, 990 cilomedr (615 milltir) o’r gangen. Ar hyn o bryd, mae ’na naw cyfieithydd yn gwasanaethu’n llawn amser yn y swyddfa gyfieithu, ynghyd â phum brawd sy’n gweithio mewn adrannau cymorth. Er bod siaradwyr Tojolabal yn deall ei gilydd, mae ’na fân wahaniaethau yn sut mae rhai ymadroddion yn cael eu defnyddio. Roedd y cyfieithwyr yn ofalus iawn i drosi’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol mewn ffordd sy’n gywir ac sy’n cael ei deall yn hawdd gan y mwyafrif.
Er enghraifft, mae Beiblau eraill yn yr iaith Tojolabal yn cyfieithu “Teyrnas Dduw” fel “y fan lle mae Duw’n rheoli” neu “tref (neu ddinas) Duw.” Ond nid yw’r cyfieithiadau hyn yn golygu llawer i’w darllenwyr sydd ddim yn defnyddio’r ymadroddion hynny. Mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr iaith Tojolabal yn trosi’r ymadrodd “Llywodraeth Dduw,” sy’n cael ei deall yn well.
“Mae Jehofa yn bendant wedi arwain pawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect i gynhyrchu cyfieithiad clir, cywir, a hawdd i’w ddarllen,” meddai un chwaer a oedd yn bresennol yn y rhaglen. “Dw i’n sicr y bydd y rhodd hon yn cyffwrdd calonnau llawer o unigolion sydd heb ddod i adnabod Duw eto.”—Actau 17:27.