MEHEFIN 22, 2023
MOSAMBÎC
Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd Cyfan yn yr Iaith Tsiangana (Mosambîc)
Ar Fehefin 18, 2023, cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd cyfan ei ryddhau yn yr iaith Tsiangana (Mosambîc). Gwnaeth y Brawd Charles Fonseca, aelod o bwyllgor cangen Mosambîc, ryddhau’r Beibl o flaen cynulleidfa o 16,245 yn ninas Maputo, prif ddinas Mosambîc. Cafodd copïau printiedig eu dosbarthu i’r gynulleidfa ac roedd y fersiwn digidol hefyd yn barod i’w lawrlwytho.
Mae’r rhan fwyaf o’r 4.2 filiwn o bobl sy’n siarad yr iaith Tsiangana (Mosambîc) yn byw yn nwy dalaith mwyaf deheuol Mosambîc, sef Maputo a Gaza. Gan fod cymaint o dafodieithoedd yn bodoli, roedd y tîm cyfieithu yn ymchwilio pa eirfa yw’r mwyaf cyfarwydd a’i defnyddio fel bod pawb yn ei deall, dim ots lle maen nhw’n byw.
Cyn i’r Beibl newydd hwn gael ei ryddhau, roedd cyhoeddwyr yn defnyddio’r Beibl yn yr iaith Tsonga, iaith sy’n perthyn i’r iaith Tsiangana (Mosambîc). I rai, roedd hyn yn gwneud dysgu am y Beibl yn heriol. Dywedodd un cyfieithydd: “Rwan, gyda’r cyfieithiad newydd hwn, gall neges y Beibl gyrraedd calonnau’r rhai sydd yn siarad yr iaith Tsiangana (Mosambîc).”
Er mwyn egluro sut mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr iaith Tsiangana (Mosambîc) yn gliriach, rhoddodd cyfieithydd arall enghraifft: “Yn rhai ieithoedd lleol, mae rhai cyfieithiadau o’r Beibl yn defnyddio geiriau am “ysbryd” a all gael eu camddeall i olygu rhywbeth sy’n goroesi ar ôl i rywun farw. Ond mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr iaith Tsiangana (Mosambîc) yn cyfleu’r ystyr cywir, drwy ddweud bod ‘nerth bywyd’ yn dychwelyd i’r creawdwr, nid y person ei hun.”
Rydyn ni’n llawenhau o weld Jehofa’n rhoi golau a gwirionedd i’r bobl sy’n siarad yr iaith Tsiangana (Mosambîc) drwy ei Air.—Salm 43:3.