Neidio i'r cynnwys

HYDREF 6, 2022
MOSAMBÎC

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Sena

Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Sena

Ar Hydref 2, 2022, gwnaeth y Brawd David Amorim, aelod o Bwyllgor Cangen Mosambîc, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr iaith Sena. a Cafodd y Beibl ei ryddhau yn ystod rhaglen oedd wedi ei recordio o flaen llaw. Roedd llawer o gyhoeddwyr yn gallu gwylio’r rhaglen yn eu Neuadd y Deyrnas lleol, ond roedd hefyd yn cael eu darlledu ar y teledu ac ar 14 gorsaf radio.

Mae’r iaith Sena yn cael ei defnyddio mewn pedair talaith ym Mosambîc: Manica, Sofala, Tete, and Zambezia. Mae’r iaith hefyd yn cael ei defnyddio mewn rhai ardaloedd ym Malawi.

Swyddfa gyfieithu Sena yn Beira, Mosambîc

Dyma’r tro cyntaf i Dystion Jehofa ryddhau Beibl cyfan yn un o ieithoedd brodorol Mosambîc. Cyn hyn, roedd rhannau o’r Beibl ar gael yn y iaith Sena, ond roedden nhw’n drud ac yn defnyddio iaith hen ffasiwn.

Rydyn ni wrth ein boddau bod Jehofa wedi rhoi anrheg mor arbennig i’n brodyr a’n chwiorydd sy’n siarad yr iaith Sena.—Diarhebion 10:22.

a Mae’r Beibl ar gael yn ddigidol ac yn brintiedig.