Neidio i'r cynnwys

GORFFENNAF 13, 2023
MOSAMBÎC

Rhyddhau Llyfr Mathew yn Iaith Arwyddion Mosambîc

Rhyddhau Llyfr Mathew yn Iaith Arwyddion Mosambîc

Ar Orffennaf 9, 2023, gwnaeth y Brawd Castro Salvado, aelod o Bwyllgor Cangen Mosambîc, ryddhau llyfr Mathew yn iaith Arwyddion Mosambîc yn ystod rhaglen arbennig ym Maputo, Mosambîc. Roedd 857o bobl yn bresennol, gan gynnwys y rhai a oedd yn gwylio dros fideo-gynadledda. Mae nawr ar gael i’w lawrlwytho ar jw.org ac yn yr ap JW Library Sign Language.

Sefydlwyd tîm cyfieithu yn swyddfa’r gangen ym Maputo yn 2017 er mwyn cyflawni anghenion Tystion Jehofa byddar ym Mosambîc, grŵp o bobl sy’n tyfu o hyd. Heddiw, mae dros 344 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn 5 cynulleidfa, 12 grŵp, a 10 rhag-grŵp.

Dyma oedd y tro cyntaf i lyfr o’r Beibl gael ei ryddhau yn yr iaith hon. Dywedodd un cyfieithydd: “Dydy’r rhai yn ein tiriogaeth sy’n defnyddio iaith Arwyddion Mosambîc erioed wedi gallu darllen gweddi’r Arglwydd yn eu hiaith eu hunain. Edrychaf ymlaen at ddefnyddio Mathew 6:9-13 i helpu fy myfyrwyr y Beibl i ddeall yn well pwysigrwydd y weddi honno.”

Rydyn ni’n llawenhau gan ein bod ni’n gwybod y bydd y cyhoeddiad hwn yn helpu llawer o bobl gyda chalonnau gonest ym Mosambîc i ddod i wybod “neges gysegredig” Duw.—Rhufeiniaid 3:2.