Neidio i'r cynnwys

MAI 4, 2023
MOSAMBÎC

Rhyddhau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Gitonga

Rhyddhau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Gitonga

Ar Ebrill 30, 2023, cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol ei ryddhau yn yr iaith Gitonga yn ystod cyfarfod arbennig yn Maxixe, Talaith Inhambane, Mosambîc. Gwnaeth y Brawd Wayne Wridgway, aelod o bwyllgor cangen Mosambîc ryddhau y Beibl o flaen cynulleidfa o 920. Derbyniodd y rhai a oedd yn bresennol gopi printiedig o’r Beibl, ac roedd copïau digidol hefyd ar gael i’w lawrlwytho.

Mae’r iaith Gitonga yn tarddu o Dalaith Inhambane ym Mosambîc. Mae trigolion yr ardal yn enwog am eu lletygarwch a’u haelioni. Mae Gitonga yn famiaith i tua 327,000 o bobl yn yr ardaloedd canlynol o’r dalaith: Homoíne, Jangamo, Maxixe, a Morrumbene.

Swyddfa gyfieithu Gitonga ym Maxixe, Talaith Inhambane, Mosambîc

Yn y gorffennol roedd cyhoeddwyr yn ei chael hi’n anodd deall cyfieithiadau o Feiblau yr iaith Gitonga. Gyda’r cyhoeddiad newydd hwn, mae’r brodyr a’r chwiorydd yn hapus i allu defnyddio cyfieithiad sy’n ei gwneud hi’n haws iddyn nhw ddeall neges y Beibl. Mynegodd un o’r cyfieithwyr: “Mae tad cariadus yn cyfathrebu â’u plant trwy ddefnyddio iaith naturiol a syml. Mewn ffordd debyg bydd siaradwyr brodorol Gitonga yn deall geiriau ein Tad cariadus Jehofa yn y cyfieithiad hwn o’r Beibl.”

Wrth ryddhau’r Beibl, dywedodd y Brawd Wridgway: “Er mwyn cael perthynas agos â Jehofa, mae angen inni weddïo arno bob dydd, ond ar ben hynny, mae angen inni wrando arno wrth iddo siarad â ni drwy ei Air, y Beibl. Hoffwn eich annog chi i ddechrau darllen eich copi chi o’r Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol cyn gynted ag y bo modd, a dod i’r arfer da o ddarllen y Beibl yn ddyddiol.”

Rydyn ni’n llawenhau gyda’n brodyr a’n chwiorydd sydd wedi derbyn eu cyfieithiad newydd o’r Beibl, a gweddïwn am fendith barhaol Jehofa ar y maes Gitonga.—Rhufeiniaid 12:15.