Neidio i'r cynnwys

MAWRTH 9, 2023
MOSAMBÎC

Rhyddhau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Ronga

Rhyddhau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Ronga

Ar Fawrth 5, 2023, gwnaeth y Brawd Castro Salvado, aelod o bwyllgor cangen Mosambîc, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Ronga yn Stadiwm Cenedlaethol Zimpeto, Maputo, Mosambîc. Dyma’r tro cyntaf i Feibl gael ei ryddhau yn ystod rhaglen wyneb-yn-wyneb yn Mosambîc ers i’r pandemig COVID-19 ddechrau. Roedd 3,150 o bobl yn gwylio’r rhaglen, a chafodd y rhai a wnaeth fynychu mewn person gopi printiedig o’r Beibl.

Mae’r iaith Ronga yn cael ei defnyddio ym Maputo ym Mosambîc ac mae’n famiaith i o leiaf 618,000 o bobl. Er bod ’na gyfieithiadau o’r Beibl ar gael yn yr iaith Ronga yn barod, dydy’r rhan fwyaf o ddarllenwyr ddim bellach yn deall y ffordd mae’r geiriau yn cael eu sillafu na’r diacritigau sy’n cael eu defnyddio.

Ynglŷn â’r Beibl newydd, dywedodd un cyfieithydd: “Dw i mor ddiolchgar am yr anrheg hon! Dw i’n gwybod bod fy mrodyr a fy chwiorydd wrth eu boddau i gael cyfieithiad o’r Beibl sy’n syml ac yn hawdd ei ddarllen. Nawr bydd geiriau Jehofa yn cyffwrdd ein calonnau yn syth.”

Rydyn ni’n llawenhau gyda’n brodyr a’n chwiorydd ac yn gweddïo am fendith Jehofa ar y maes Ronga.—Rhufeiniaid 12:15.