Neidio i'r cynnwys

Y Brawd Amaro Teixeira yn rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Ndaweg

MAWRTH 2, 2021
MOSAMBÎC

Tystion Jehofa yn Cyrraedd Carreg Filltir Wrth Ryddhau Beibl ym Mosambîc

Mae Cyfieithiad y Byd Newydd Bellach ar Gael Mewn 200 o Ieithoedd

Tystion Jehofa yn Cyrraedd Carreg Filltir Wrth Ryddhau Beibl ym Mosambîc

Cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol ei ryddhau yn yr iaith Ndaweg ar Chwefror 28, 2021. Gyda’r lansiad hwn, mae Cyfieithiad y Byd Newydd bellach ar gael yn gyfan neu’n rhannol mewn 200 o ieithoedd. Yn ogystal â hyn, diwrnod yn gynharach, ar Chwefror 27, cafodd Y Beibl—Yr Efengyl yn ôl Mathew ei ryddhau yn yr iaith Tsiwabo.

Gwnaeth y Brawd Amaro Teixeira, aelod o Bwyllgor Cangen Mosambîc, ryddhau’r ddau gyfieithiad ar ffurf ddigidol yn ystod rhaglenni oedd wedi eu recordio o flaen llaw a’u ffrydio i’r cyhoeddwyr. Hefyd, cafodd y rhaglenni eu darlledu ar orsaf deledu genedlaethol ac ar amryw orsafoedd radio lleol. Bydd Y Beibl—Yr Efengyl yn ôl Mathew a gafodd ei ryddhau yn yr iaith Tsiwabo hefyd ar gael mewn llyfryn 64 tudalen er budd y rhai sydd heb ddyfeisiau electronig.

Mae Tsiwabo yn cael ei siarad gan 1.4 miliwn o bobl yn Nhalaith Zambesia. Mae cyfanswm o 492 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu yn y maes Tsiwabo.

Mae’r Brawd Nicholas Ahladis, sy’n gweithio gyda Gwasanaethau Cyfieithu yn y pencadlys, yn dweud: “Mae cyfieithiad Tsiwabo o lyfr Mathew yn gam enfawr ymlaen. Roedd hi’n dipyn o gamp gael hyd i’r cyfieithiad blaenorol ac roedd hwnnw’n anodd ei ddeall.”

Mae Ndaweg yn iaith sy’n cael ei siarad yng nghanolbarth Mosambîc gan ryw 1.1 miliwn o bobl, gan gynnwys 1,500 o gyhoeddwyr.

Yn ystod y prosiect, cafodd y gwaith cyfieithu Ndaweg ei effeithio arno’n uniongyrchol gan dair trychineb mawr. Yn 2019, achosodd Seiclon Idai ddifrod ofnadwy ym Mosambîc. Y flwyddyn wedyn, ynghyd â gweddill y byd, bu rhaid i Fosambîc ymdopi â heriau’r pandemig COVID-19. Yna ar ddechrau 2021, daeth mwy o ddifrod ar y wlad yn sgil Seiclon Eloise. Er gwaethaf yr heriau unigryw hyn, gorffennodd y pum cyfieithydd eu gwaith mewn dwy flynedd a hanner.

Mae un aelod o’r tîm cyfieithu Ndaweg yn esbonio: “Pan dw i’n meddwl am beth oedden ni’n gallu ei wneud er gwaethaf yr holl heriau, dw i’n dal methu credu ein bod ni wedi gorffen y gwaith cyfieithu. I mi mae’n wyrth. Roedd y prosiect yn ymddangos yn amhosib, y tu hwnt i’n gallu, ond mae’r canlyniadau’n gymaint gwell na’r disgwyl. Wrth gwrs, Jehofa biau’r clod i gyd.”

Mae’r Brawd Ahladis yn parhau: “Mae ein brodyr Ndaweg eu hiaith, gan gynnwys y cyfieithwyr, wedi profi llawer o dreialon yn ddiweddar, sydd wedi gohirio’r prosiect. Ond nawr, bydd y fersiwn hawdd ei ddeall o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn wobr fawr i’n brodyr a bydd yn calonogi a chysuro’r gymuned Ndaweg ei hiaith yn fawr iawn.”

Mae’r Brawd Geoffrey Jackson, aelod o’r Corff Llywodraethol, yn dweud: “Mae pob cyfieithydd y Beibl yn gwneud aberthau ac yn wynebu heriau. Ar ôl y treialon mae’r tîm cyfieithu Ndaweg wedi eu profi yn ystod y prosiect, gan gynnwys trychinebau naturiol, mae’n gwbl briodol fod yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Ndaweg yn nodi’r 200fed iaith ar gyfer Cyfieithiad y Byd Newydd. ’Dyn ni’n sicr y bydd y Beibl hwn yn fendith fawr i’r gymuned niferus Ndaweg ei hiaith sydd ym Mosambîc.”

Llawenhawn gyda’n brodyr dros lansiad y Beiblau hyn yn ystod y pandemig. Mae’n amlwg ni all unrhyw beth rwystro Jehofa rhag cyflawni ei ewyllys.—Eseia 43:13.