EBRILL 7, 2022
MYANMAR
Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr Iaith Careneg (S’gaw)
Ar Fawrth 27, 2022, gwnaeth y Brawd Mats Kassholm, aelod o Bwyllgor Cangen Myanmar, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr iaith Careneg (S’gaw). Cafodd y rhaglen a oedd wedi ei recordio o flaen llaw ei ffrydio i gynulleidfa o tua 620. Bydd copïau printiedig ar gael yn Ebrill 2022.
Mae hanes Tystion Jehofa ym Myanmar yn dyddio yn ôl i 1914 pan wnaeth Myfyrwyr y Beibl cyntaf gyrraedd. Cafodd y cyhoeddwr cyntaf Careneg (S’gaw) ei iaith ym Myanmar ei fedyddio rywbryd ar ôl 1940.
Bydd Cyfieithiad y Byd Newydd yn fuddiol iawn am fod cyfieithiadau eraill o’r Beibl i Gareneg (S’gaw) yn cynnwys hen eiriau sy’n un ai’n anodd eu deall neu’n cyfleu ystyr anghywir. Er enghraifft, trosodd un Beibl Careneg (S’gaw) ran o Salm 72:16 fel “dyrnaid o ŷd yn y ddaear.” Ond, mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn trosi’r adnod hon yn gywirach fel “digonedd o ŷd ar y ddaear.”
Mae’r Beibl newydd yn fendith ysbrydol ar gyfer cyhoeddwyr sy’n siarad Careneg (S’gaw). Gweddïwn y bydd y Beibl yn eu helpu i aros yn ysbrydol gryf.—1 Pedr 5:10.