CHWEFROR 22, 2023
NIGERIA
Rhyddhau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Ieithoedd Pijin (Gorllewin Affrica) ac Wrhobo
Ar Chwefror 12, 2023, gwnaeth y Brawd Jeffrey Winder, aelod o’r Corff Llywodraethol, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr ieithoedd Pijin (Gorllewin Affrica) ac Wrhobo. Cafodd y rhaglen ei ffrydio i gynulleidfaoedd yn Nigeria, gyda 559,326 o bobl yn ei gwylio. Roedd copïau digidol o’r Beibl ar gael yn syth ar ôl y rhaglen. Bydd copïau printiedig ar gael yn nes ymlaen yn 2023.
Cafodd y gynulleidfa Pijin (Gorllewin Affrica) gyntaf ei ffurfio yn 2015. Erbyn hyn, mae ’na dros 1,100 o gynulleidfaoedd yn Nigeria, gyda llawer o gynulleidfaoedd Pijin (Gorllewin Affrica) mewn gwledydd eraill, fel Lloegr a’r Unol Daleithiau. Yn y gorffennol, roedd y gynulleidfaoedd yn dibynnu yn gyfan gwbl ar fersiwn Saesneg o Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd. Dywedodd un brawd: “Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd weithiau i bregethu yn yr iaith Pijin wrth ddefnyddio’r Beibl Saesneg. Ar adegau, doedd y deiliad ddim yn gallu deall pwynt yr adnod roeddwn ni’n ei darllen. Ond heddiw, rydyn ni’n pregethu yn Pijin ac yn darllen y Beibl Pijin hefyd. Oherwydd hyn, bydd pawb yn deall ein neges yn glir.”
Cafodd y gynulleidfa Wrhobo gyntaf ei sefydlu ym 1933. Gwnaeth y brodyr gyfieithu y llyfryn cyntaf, Living in Hope of a Righteous New World, i’r iaith Wrhobo ym 1968. Ers hynny, mae’r nifer o gynulleidfaoedd wedi cynyddu i 103. Mae Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Wrhobo yn defnyddio iaith bob dydd sy’n hawdd ei deall. Bydd y Beibl newydd hwn yn fendith anhygoel i’r gynulleidfaoedd hyn.
Rydyn ni’n gweddïo bydd y cyfieithiadau hyn yn helpu mwy o bobl i gael eu “llenwi â gwybodaeth gywir” am Dduw.—Colosiaid 1:9.