Neidio i'r cynnwys

HYDREF 5, 2022
PORTIWGAL

Rhyddhau Llyfr Mathew yn yr Iaith Cabwferdianw

Rhyddhau Llyfr Mathew yn yr Iaith Cabwferdianw

Ar Fedi 25, 2022, gwnaeth y Brawd Mário Pinto de Oliveira, aelod o Bwyllgor Cangen Portiwgal, ryddhau Y Beibl—Y Newyddion Da yn ôl Mathew yn yr iaith Cabwferdianw. Cafodd y llyfr digidol ei ryddhau yn ystod rhaglen fyw a gafodd ei ffrydio o swyddfa gangen Portiwgal yn Lisbon. Roedd ’na tua 3,812 yn gwylio’r rhaglen, gan gynnwys rhai mewn Neuaddau’r Deyrnas ym Mhortiwgal a Cape Verde.

Cabwferdianw ydy mamiaith pobl sy’n byw ar Cape Verde. Mae’n creoliaith sydd wedi ei seilio ar Bortiwgaleg. Cangen Portiwgal sy’n cyfarwyddo’r gwaith yn Cape Verde.

Swyddfa gyfieithu Cabwferdianw yn Praia, Santiago, Cape Verde

Dywedodd un cyfieithydd am y cyfieithiad hwn: “Mae rhai llyfrau o’r Beibl wedi cael eu cyfieithu i’r iaith Cabwferdianw, ond dydy hi ddim yn hawdd cael gafael arnyn nhw. I lawer, dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw ddarllen Gair Duw yn eu mamiaith.”

Dywedodd cyfieithydd arall: “Mae’r Beibl yma yn hawdd i’w ddarllen, yn hawdd i’w ddeall, ac yn defnyddio iaith bob dydd. Mae’n anrheg bendigedig oddi wrth Jehofa ac mi fydd yn ddefnyddiol iawn yn ein gwaith pregethu. O hyn ymlaen fyddan ni’n gallu canolbwyntio ar gyrraedd calonnau pobl yn hytrach na gwastraffu amser yn esbonio geiriau.”

Mae cael y Beibl yn yr iaith Cabwferdianw yn dangos bod Duw eisiau i’w Air fod ar gael i bawb sy’n chwilio amdano ef.—Actau 10:34, 35.