Neidio i'r cynnwys

Y Brawd Nikolay Makhalichev ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar yn Belarws

EBRILL 9, 2020
RWSIA

Rhyddhau’r Brawd Makhalichev o’r Carchar yn Belarws; Erlynydd yn Gwrthod Cais Rwsia i’w Estraddodi

Rhyddhau’r Brawd Makhalichev o’r Carchar yn Belarws; Erlynydd yn Gwrthod Cais Rwsia i’w Estraddodi

Ar Ebrill 7, 2020, gwrthododd Swyddfa Erlynydd Cyffredinol Belarws gais Rwsia i estraddodi’r Brawd Nikolay Makhalichev, gan ganiatáu iddo gael ei ryddhau o’r carchar. Roedd y Brawd Makhalichev wrth ei fodd i gael ei ryddhau mewn pryd i gadw Coffadwriaeth flynyddol marwolaeth Crist yn Belarws yng nghwmni ei ffrindiau.

Arestiwyd y Brawd Makhalichev gan yr awdurdodau ar Chwefror 21, 2020, tra ei fod yn teithio o Rwsia i Belarws i weld ffrindiau. Cadwyd ein brawd yn y ddalfa gan yr heddlu yn Belarws ar ôl iddyn nhw edrych ar ei basbort a sylweddoli bod ei enw ar restr ryngwladol pobl y mae Rwsia yn chwilio amdanyn nhw wedi ei gyhuddo o drefnu gweithgareddau sefydliad “eithafol.”

Dri diwrnod wedyn, arestiwyd y Brawd Makhalichev tra eu bod yn penderfynu a ddylid ei estraddodi i Rwsia i wynebu’r cyhuddiadau a wnaed yn ei erbyn ym mis Ionawr 2019. Dyna’r tro cyntaf i un o Dystion Jehofa gael ei arestio mewn gwlad arall o ganlyniad i warant yn Rwsia.

Yn y ddalfa, daliodd y Brawd Makhalichev wrth ei weithgareddau ysbrydol ac roedd hynny’n ei gadw’n gryf. Roedd yn gallu helpu pedwar o bobl i astudio’r Beibl yn rheolaidd, ac fe dreuliodd 198 o oriau yn y weinidogaeth ym mis Mawrth.

Rydyn ni’n ffyddiog y bydd ein brodyr a chwiorydd yn Rwsia yn parhau i ddibynnu ar Jehofa i fod yn noddfa iddyn nhw.—Salm 142:5.