HYDREF 25, 2021
SAMBIA
Rhyddhau Beibl yn yr Iaith Lwndeg
Ar Hydref 16, 2021, cafodd Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd ei ryddhau yn yr iaith Lwndeg mewn fformat digidol yn ystod rhaglen arbennig a gafodd ei ffrydio i gyhoeddwyr mewn tair gwlad yn Affrica. Dylai copïau caled fod ar gael o fis Chwefror 2022.
Gwnaeth y Brawd Emmanuel Chiposa, aelod o Bwyllgor Cangen Sambia, ryddhau’r Beibl yn ystod anerchiad a gafodd ei recordio o flaen llaw. Cafodd ei ffrydio i gynulleidfaoedd yn Angola, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, a Sambia.
Yn draddodiadol, mae’r bobl Lwndeg eu hiaith yn ffermwyr sy’n tyfu india-corn, casafa, a thatws pêr. Yn Sambia, maen nhw’n byw wrth ffynhonnell afon Zambezi, sef y bedwaredd afon hiraf yn Affrica, ar ôl afonydd Nîl, Congo, a Niger. Dechreuodd Tystion Jehofa bregethu i’r bobl Lwndeg eu hiaith yn y 1930au, a chyfieithu llenyddiaeth i’r iaith honno yn 2003.
Ym mis Medi 2019, symudodd y tîm cyfieithu Lwndeg i swyddfa gyfieithu newydd sbon. Mi wnaeth hyn helpu’r gwaith drwy roi, ymhlith pethau eraill, gysylltiad rhyngrwyd sefydlog i’r tîm.
Am nifer o flynyddoedd, roedd rhaid i gyhoeddwyr ddibynnu ar Feiblau drud a oedd yn defnyddio iaith hynafol, ac roedd y rhain yn anodd eu cael. Mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn Lwndeg yn glir ac yn hawdd ei ddeall. Er enghraifft, roedd y Beiblau Lwndeg blaenorol yn defnyddio ffurf luosog o’r gair “had” yn Genesis 3:15. Roedd y trosiad yma yn ei gwneud hi’n anodd i gyhoeddwyr esbonio bod y broffwydoliaeth yn cyfeirio’n bennaf at Iesu. Ond mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn Lwndeg yn mynd ati’n gywir i drosi’r term yn ei ffurf unigol.
Mae’r cyfieithwyr wrth eu boddau gyda’r Beibl newydd. Dywedodd un ohonyn nhw: “Dw i’n gwbl hyderus y bydd pobl yn teimlo’n agosach at eu Creawdwr, Jehofa, o ddarllen y cyfieithiad hwn.”
Mae rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr iaith Lwndeg yn dystiolaeth bellach o gariad Jehofa tuag at bobl o bob cenedl. Bydd y Beibl hwn yn helpu pobl Jehofa i ddal ati i gyhoeddi neges y Deyrnas “i ben draw’r byd.”—Rhufeiniaid 10:18.