EBRILL 14, 2022
SBAEN
Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn yr Iaith Gatalaneg
Ar Ebrill 2, 2022, gwnaeth y Brawd Alberto Rovira, aelod o Bwyllgor Cangen Sbaen, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd yn yr iaith Gatalaneg mewn fformat digidol. Daeth Tystion sy’n siarad Catalaneg yn Andora a sawl ardal o Sbaen, gan gynnwys yr Ynysoedd Balearig, Catalwnia, a Valencia, at ei gilydd yn rhithiol i wylio’r rhaglen arbennig. Roedd dros 3,000 wedi cysylltu drwy JW Stream. Bydd copïau printiedig o’r Beibl ar gael i’r cynulleidfaoedd ymhen ychydig o fisoedd.
Mae cyfieithwyr wedi bod yn cynhyrchu fersiynau o’r Beibl yn yr iaith Gatalaneg mor bell yn ôl â’r 13eg ganrif. Un fersiwn trawiadol o’r Beibl Catalaneg yw’r un a elwir y Beibl Mydryddol, sef cyfieithiad lle mae’r llinellau yn odli. Cafodd hwnnw ei gyhoeddi rhwng 1282 a 1325. Mae’n aralleiriad o 18 o lyfrau’r Beibl, lle mae’r odli yn helpu pobl i gofio’r testun.
Mae llawer o gyfieithiadau Catalaneg o’r Beibl yn defnyddio iaith hynafol sy’n anodd i ddarllenwyr ei deall. Mae fersiynau eraill yn hepgor enw Jehofa neu’n cynnwys camgyfieithiadau.
Fel esboniodd y Brawd Rovira yn ystod y rhaglen: “Gallwn ni fod yn gwbl sicr fod y Beibl hwn yn cyfleu syniadau Duw’n gywir yn ein mamiaith.”
Rydyn ni’n hapus y bydd pobl Gatalaneg eu hiaith yn gallu elwa’n llawn o rym Gair Duw.—Hebreaid 4:12.