Neidio i'r cynnwys

MEHEFIN 2, 2023
SLOFACIA

Rhyddhau Llyfr Mathew yn yr Iaith Romani (Dwyrain Slofacia)

Rhyddhau Llyfr Mathew yn yr Iaith Romani (Dwyrain Slofacia)

Ar Fai 27, 2023, gwnaeth y Brawd Jaroslav Sekela, aelod o bwyllgor cangen Tsiec-Slofac, ryddhau Y Beibl—Llyfr Mathew yn yr iaith Romani (Dwyrain Slofacia). Cafodd y llyfr hwn o’r Beibl ei ryddhau yn ystod cyfarfod arbennig yn nhref Michalovce, Dwyrain Slofacia. Cafodd pawb a ddaeth i’r digwyddiad arbennig hwn gopi printiedig, ac mae’r llyfr hefyd ar gael yn ddigidol.

Swyddfa gyfieithu Romani (Dwyrain Slofacia) yn Košice, Slovakia

Mae Romani yn perthyn i ieithoedd fel Bengaleg, Hindi, a Pwnjabeg. Mae nifer mawr o eiriau Romani wedi dod o ieithoedd lleol yn ardaloedd lle mae pobl Romani wedi setlo. O ganlyniad i hyn, mae ’na amrywiaeth o ran geirfa yn y tafodiaith sy’n cael eu siarad yn Nwyrain Slofacia. Gwnaeth y tîm cyfieithu ystyried yr amrywiaethau hynny yn ystod y prosiect.

Mae ’na gyfieithiad arall o’r Beibl ar gael yn yr iaith Romani (Dwyrain Slofacia). Ond yn hytrach na chynnwys enw Duw, Jehofa, mae’n defnyddio geiriau fel o Raj ac o Del, sy’n golygu “Arglwydd” a “Duw.” Hefyd mae nifer o adnodau wedi cael eu haralleirio, sy’n ei gwneud hi’n anodd i ddarllenwyr ddeall y syniadau gwreiddiol. Mae’r cyfieithiad newydd hwn o lyfr Mathew yn cynnwys enw Jehofa ac yn defnyddio iaith eglur.

Dywedodd cyfieithydd a wnaeth weithio ar y prosiect: “Wrth gyfieithu’r Beibl, mae’n hynod o bwysig bod y cyfieithiad yn cyfleu neges Duw yn gywir er mwyn i bobl ddod i’w adnabod a’i garu.”

Dywedodd cyfieithydd arall: “Mae’r bobl Romani yn wynebu rhagfarn yn aml iawn. Felly, gall Mathew 10:31 ddod â chysur iddyn nhw. Mae’n ein hatgoffa ni fod Jehofa yn sylwi ar hyd yn oed adar y to, er doedden nhw ddim yn werth llawer i bobl yn adeg y Beibl. Rydyn ni’n werth mwy i Jehofa na llawer o adar y to.”

Rydyn ni’n hyderus y bydd y cyfieithiad hwn yn helpu darllenwyr i ddysgu am, ac i weld, cariad a gofal Jehofa tuag atyn nhw.—1 Pedr 5:7.