MEHEFIN 13, 2022
TSILE
Rhyddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Mapwdwngwn
Ar Fehefin 5, 2022, gwnaeth y Brawd Jason Reed, aelod o Bwyllgor Cangen Tsile, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Mapwdwngwn mewn fformatiau digidol a phrintiedig. Cafodd cynulleidfaoedd Mapwdwngwn eu hiaith o bob cwr o’r wlad eu gwahodd i wylio’r rhaglen drwy ffrydio byw. Cyfanswm y rhai oedd yn bresennol oedd bron i 800.
Mae’r mwyafrif o lwyth y Mapwtshe yn byw yng nghanolbarth a rhannau deheuol Tsile a’r Ariannin, rhwng Cefnfor yr Iwerydd a’r Môr Tawel. Mae golygfeydd y dirwedd yn amrywio o goedwigoedd cynhenid, llosgfynyddoedd byw, cadwyn mynyddoedd yr Andes, a gwastadeddau eang y paith. Mae’r Mapwtshe yn bobl letygar ac yn parchu pethau cysegredig.
Mae rhannau o’r Beibl wedi bod ar gael yn yr iaith Mapwdwngwn ers 1901, ac fe gafodd fersiwn cyflawn o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol ei gyhoeddi gan Feibl gymdeithas ym 1997. Ond roedd angen cyfieithiad cywirach. Er enghraifft, mae fersiwn 1997 yn defnyddio gair a gyfieithir “croes” i ddisgrifio’r pren y bu Iesu farw arno. Ond, mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn defnyddio’r gair Mapwdwngwn ar gyfer “boncyff,” sy’n dangos bod Iesu wedi marw ar stanc ar ei sefyll.
Mae’n werth tynnu sylw at y ffaith fod copïau printiedig o Cyfieithiad y Byd Newydd ar gael ar yr un adeg a gafodd y fformat digidol ei ryddhau. Derbyniodd pob un oedd yn bresennol yn y 23 o Neuaddau’r Deyrnas y cafodd y rhaglen ei ffrydio iddyn nhw gopi personol. Esboniodd y Brawd Jorge González, aelod o Bwyllgor Cangen Tsile: “Mae pobl Mapwtshe yn tueddu drwgdybio gwybodaeth gysegredig, fel Gair Duw, pan fydd mewn fformat digidol. Felly ’dyn ni’n disgwyl y bydd llawer o unigolion â diddordeb mewn cael copi personol o Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Mapwdwngwn.”
Gweddïwn y bydd y Beibl newydd yn helpu hyd yn oed mwy o bobl o’r “holl genhedloedd” i ddod i adnabod Jehofa a’i addoli.—Eseia 2:2, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.