HYDREF 1, 2021
YR UNOL DALEITHIAU
Rhyddhau Llyfr Mathew yn yr Iaith Hmongeg
Ar Fedi 25, 2021, cafodd Y Beibl—Yr Efengyl yn ôl Mathew yn yr iaith Hmongeg ei ryddhau mewn fformat digidol. Gwnaeth y Brawd Geoffrey Jackson, aelod o’r Corff Llywodraethol, ryddhau’r Efengyl mewn cyfarfod rhithiol arbennig a gafodd ei ffrydio yn fyd-eang i gynulleidfa o fwy na 2,500.
Dyma lyfr cyntaf Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Sanctaidd i gael ei ryddhau yn Hmongeg, iaith sy’n cael ei siarad gan dros 3.9 miliwn ar draws y byd. a Yn draddodiadol, mae’r bobl Hmong yn credu mewn animistiaeth a siamaniaeth.
Yn y 1970au, gwnaeth llawer o’r bobl Hmong ffoi o’u cartrefi i wersylloedd ffoaduriaid yng Ngwlad Thai. Yn y pen draw, mi wnaeth nifer o’r ffoaduriaid hyn ailgartrefu mewn gwledydd Gorllewinol; aeth y mwyafrif ohonyn nhw i’r Unol Daleithiau.
Heddiw, mae pobl Hmong yn America yn byw yng Nghaliffornia, Minnesota, a Wisconsin. Dechreuodd Tystion Jehofa gyfieithu i’r iaith Hmongeg yn 2007. Yn 2012, cafodd swyddfa gyfieithu ei hadeiladu yn Sacramento, Califfornia.
Cwblhaodd y tîm cyfieithu lyfr Mathew mewn tri mis. Cawson nhw gymorth gan grŵp o brawfddarllenwyr o bump o wahanol wledydd.
Yn ystod y prosiect, roedd rhaid i’r tîm cyfieithu oresgyn her unigryw. Dim ond ar ôl 1950 daeth Hmongeg yn iaith ysgrifenedig, a does ’na ddim system safonol o sillafu a phriflythrennu ganddi.
Erbyn y 1980au roedd ’na gyfieithiadau o’r Beibl ar gael yn yr iaith, ond roedden nhw’n ddrud iawn a doedd llawer o’r siaradwyr Hmongeg ddim yn gallu eu fforddio. Roedd ’na nifer o drosiadau anghywir ynddyn nhw a oedd yn rhwystro pobl rhag deall Gair Duw yn iawn. Er enghraifft, disodlodd un cyfieithiad o’r Beibl enw personol Duw, Jehofa, gydag enw cymeriad chwedlonol o hanesion yr Hmong.
“Bellach gyda Cyfieithiad y Byd Newydd yn yr iaith Hmongeg, bydd pobl ddiffuant yn gallu darllen enw Jehofa yn eu copïau eu hunain o’r Beibl a dod yn ffrind iddo,” meddai un cyfieithydd. “Dyma beth ’dyn ni wedi bod yn gweddïo amdano ers blynyddoedd lawer.”
Mae darllenwyr yn dweud eu bod yn ddiolchgar fod ganddyn nhw gyfieithiad sy’n hawdd ei ddeall. Dywedodd un darllenwr: “Pan ddarllenais lyfr Mathew yn Hmongeg, oedd yn dipyn o ryfeddod. O’n i’n gofyn imi fy hun, ‘Sut mae’r cyfieithiad hwn yn gallu cyffroi cymaint o emosiynau yno i?’ O’n i’n gallu gweld y stori yn dod yn fyw.”
Mae rhyddhau llyfr Mathew yn yr iaith Hmongeg yn ein hatgoffa nad ydy ein Duw yn dangos ffafriaeth ac y bydd yn gwneud yn siŵr fod ei Air ar gael i bawb sy’n chwilio amdano.—Actau 10:34, 35.
a Mae ymchwilwyr yn ei chael hi’n anodd dweud faint yn union o bobl Hmong sydd ’na. Amcangyfrifir bod 2.7 miliwn o Hmong yn byw yn nhaleithiau deheuol Tsieina. Mae tua 1.2 miliwn yn byw yng ngogledd Fietnam, Laos, Gwlad Thai, a dwyrain Myanmar. Mae mwy na 170,000 yn byw yn yr Unol Daleithiau.