Neidio i'r cynnwys

Adeilad y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol lle mae’r Uchel Lys a Llys Apêl Lloegr a Chymru

MAI 12, 2020
Y DEYRNAS UNEDIG

Lloegr yn Cadarnhau Hawliau Ynglŷn ag Ymlyniad Crefyddol

Lloegr yn Cadarnhau Hawliau Ynglŷn ag Ymlyniad Crefyddol

Ar Fawrth 17, 2020, gwrthododd Llys Apêl Lloegr a Chymru gais a oedd yn apelio penderfyniad yr Uchel Lys. Cadarnhaodd y Llys Apêl fod gan Dystion Jehofa yr hawl i ufuddhau i gyfarwyddiadau’r Beibl ynglŷn â diarddel.

Mewn dyfarniad cynhwysfawr, penderfynodd yr Uchel Lys nad oedd hi’n anghyfreithlon nac yn ddifenwol i gynulleidfa gyhoeddi nad yw unigolyn yn un o Dystion Jehofa mwyach. Dywedodd barnwr y llys, Richard Spearman, Cwnsler y Frenhines, yn ei ddyfarniad: “Mae’n rhaid disgwyl i gorff crefyddol sy’n ceisio dilyn a bod yn ufudd i egwyddorion Ysgrythurol gael yr awdurdod i ddiarddel pechadur. Ymysg pethau eraill, mae’n gall, a hyd yn oed yn angenrheidiol, oherwydd dydy rhywun sydd ddim yn gallu neu sy’n anfodlon ufuddhau i egwyddorion yr Ysgrythurau ddim yn gymwys i fod yn rhan o’r grŵp crefyddol hynny. Ac os nad ydy’r unigolyn hwnnw yn cael ei ddiarddel, gallai fod yn ddylanwad drwg ar y rhai ffyddlon.”

Gwnaeth yr hawlydd gais i’r Llys Apêl am ganiatâd i apelio penderfyniad yr Uchel Lys. Gwrthododd y Llys Apêl y cais hwnnw gan ddweud ei fod “yn gwbl ddi-sail,” gan nodi hefyd fod penderfyniad yr Uchel Lys yn “hollol gywir” a bod yr “awdurdod i ddiarddel yn gwbl angenrheidiol o fewn cyfundrefn ysbrydol.”

Meddai Shane Brady, cyfreithiwr ar gyfer Tystion Jehofa, am y dyfarniad: “Mae’r penderfyniad hwn yn cytuno’n llwyr â rhestr hir o ddyfarniadau llysoedd Lloegr, Llys Hawliau Dynol Ewrop, Llysoedd apeliadol Canada, Cyfandir Ewrop, a’r Unol Daleithiau. Mae pob un o’r penderfyniadau hyn yn cadarnhau bod gan Dystion Jehofa yr hawl i benderfynu pwy sy’n gallu bod yn eu cyfundrefn grefyddol nhw.”

Rydyn ni’n hapus bod y Llys wedi cydnabod ein hawl i ddilyn yr Ysgrythurau sy’n diogelu ein cynulleidfaoedd rhag dylanwadau drwg.—1 Corinthiaid 5:11; 2 Ioan 9-11.