EBRILL 9, 2020
YR EIDAL
Brodyr a Chwiorydd yn yr Eidal yn Aros yn Ysbrydol Gryf er Gwaethaf y Pandemig
Mae’r Eidal yn un o’r gwledydd sydd wedi eu taro waethaf gan COVID-19. Dan gyfarwyddyd y Corff Llywodraethol, mae’r swyddfa gangen yn yr Eidal yn rhoi cymorth ymarferol ac ysbrydol i’n brodyr a chwiorydd.
Ffurfiwyd tri Phwyllgor Cymorth ar ôl Trychineb i ofalu am anghenion y brodyr yn y gogledd, y canol, a’r de. Mae’r pwyllgorau’n cael newyddion am anghenion y cyhoeddwyr drwy’r arolygwyr cylchdaith, sydd yn eu tro yn derbyn gwybodaeth reolaidd gan henuriaid y cynulleidfaoedd.
Yn ogystal â chefnogaeth ymarferol, mae’r henuriaid yn helpu cyhoeddwyr i gadw at eu rhaglen o weithgareddau ysbrydol. Mae’r Brawd Villiam Boselli, sydd yn arolygwr cylchdaith ger Milan, un o’r dinasoedd cyntaf i weld achosion o’r salwch, yn dweud: “Er eu bod nhw’n gorfod aros yn eu cartrefi, mae’r brodyr a chwiorydd yn cadw mewn cyswllt. Maen nhw’n ymuno yn y cyfarfodydd drwy gynhadledd fideo, ac felly yn gallu cymryd rhan ac annog ei gilydd. Mae hyd yn oed brodyr a chwiorydd oedrannus yn cael budd o’r cyfarfodydd drwy gynhadledd fideo. Dw i’n meddwl bod y cynulleidfaoedd yn agosach nac erioed!”
Ar ben hynny, mae llawer sydd ddim yn Dystion yn gwylio’r cyfarfodydd gydag aelodau eu teuluoedd. Dywed un chwaer: “Doedd fy ngŵr i ddim eisiau mynd i’r cyfarfodydd, ond rŵan mae’r cyfarfodydd yn dod ato fo . . . a wyddoch chi be’? Mae o’n mwynhau!”
Mae brodyr a chwiorydd yn bachu ar bob cyfle i dystiolaethu. Er enghraifft, aeth un chwaer yn ei char i fynd a chadair olwyn at chwaer mewn oed. Ar y ffordd cafodd ei stopio gan yr heddlu. Esboniodd y chwaer ei bod hi’n helpu dynes oedrannus a’i bod wedi cael caniatâd i deithio. Yna cynigiodd y taflenni Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Dyfodol? ac A Fydd Pobl yn Dioddef am Byth? i’r tri heddwas a oedd yn hapus i’w derbyn. Ar y ffordd yn ôl, cafodd y chwaer ei stopio eto gan yr heddweision. Y tro hwn, diolchon nhw iddi am y taflenni a gofynnon nhw am fwy o wybodaeth am y gobaith yn y Beibl. Gofynnon nhw i ddau o’u cyd-weithwyr ymuno yn y sgwrs hefyd ac roedd y chwaer yn gallu dangos jw.org iddyn nhw. Dywedodd un heddwas, “Diolch yn fawr iawn ichi. Dyna’r peth gorau i ni ei weld heddiw!”
Dywed y Brawd Boselli: “Un o fy nghyfrifoldebau ydy calonogi a chysuro eraill, ond fi ydy’r un sydd wedi cael fy nghalonogi drwy weld fy mrodyr yn aros yn agos at Jehofa ac yn benderfynol o ddal ati. Mae eu cariad tuag at Jehofa mor ddiffuant a rhyfeddol, mae’n dwyn dagrau i fy llygaid. Mae ein brodyr yn rhodd wirioneddol hael oddi wrth Jehofa. Allwn ni ddim gwneud hebddyn nhw!”
Er gwaethaf amgylchiadau hynod o heriol, mae’n amlwg bod ein brodyr yn aros yn ysbrydol gryf, ac nad oes ‘neb wedi ei siglo yn y gorthrymderau hyn.’—1 Thesaloniaid 3:2, 3, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.