Beth Ydy Agwedd Tystion Jehofa at Wyddoniaeth?
Rydyn ni’n parchu’r pethau mae gwyddoniaeth wedi eu cyflawni ac yn derbyn canfyddiadau gwyddonol sydd â thystiolaeth yn gefn iddyn nhw.
Mae Gweiadur yn diffinio gwyddoniaeth fel “cangen o wybodaeth neu astudiaeth sy’n gallu cael ei threfnu’n systematig ac sy’n dibynnu, fel arfer, ar brofi ffeithiau a dod o hyd i ddeddfau naturiol ein byd.” Nid gwerslyfr gwyddoniaeth yw’r Beibl, ond mae’n annog pobl i astudio byd natur ac i fanteisio ar ddarganfyddiadau gwyddonol. Ystyriwch rai enghreifftiau:
Seryddiaeth: “Edrychwch i fyny ar y sêr! Pwy wnaeth eu creu nhw? Pwy sy’n eu galw nhw allan bob yn un? Pwy sy’n galw pob un wrth ei enw?”—Eseia 40:26.
Bioleg: “Byddai [Solomon yn] sôn am y coed, o’r cedrwydd yn Lebanon i’r isop sy’n tyfu ar y wal; byddai hefyd yn sôn am yr anifeiliaid, yr adar, yr ymlusgiaid, y pryfed, a’r pysgod.”—1 Brenhinoedd 4:33.
Meddygaeth: “Does dim angen meddyg ar y rhai sy’n iach, ond mae angen un ar y rhai sy’n sâl.”—Luc 5:31.
Meteoroleg: “Wyt ti wedi bod i mewn i stordai’r eira, neu wedi gweld y storfeydd o genllysg . . .? O ble daw gwynt y dwyrain i chwythu drwy’r byd?”—Job 38:22-24.
Mae ein cyhoeddiadau’n hyrwyddo parch tuag at wyddoniaeth drwy gynnwys erthyglau ar y byd natur ac ar gyflawniadau gwyddonol. Mae’r Tystion yn annog eu plant i gael addysg er mwyn iddyn nhw ddeall y byd o’u cwmpas yn well. Mae nifer o Dystion Jehofa yn gweithio mewn meysydd gwyddonol, gan gynnwys biocemeg, mathemateg, a ffiseg.
Cyfyngiadau gwyddoniaeth
Dydyn ni ddim yn credu bod gwyddoniaeth yn gallu ateb pob un o’n cwestiynau. a Er enghraifft, mae daearegwyr yn astudio beth yw’r ddaear ei hun, ac mae biolegwyr yn astudio sut mae’r corff yn gweithio. Ond pam mae’r ddaear mor berffaith ar gyfer bywyd, a hynny o fewn terfynau cyfyngedig iawn? A pham mae aelodau’r corff yn cydweithio mor effeithiol?
Rydyn ni wedi dod i’r casgliad mai dim ond y Beibl all roi atebion boddhaol i’r cwestiynau hynny. (Salm 139:13-16; Eseia 45:18) Felly rydyn ni’n credu bod addysg dda yn golygu dysgu am wyddoniaeth ac am y Beibl.
Ar adegau, mae’n ymddangos fel petai gwyddoniaeth yn anghytuno â’r Beibl. Ond camddeall y Beibl sy’n gyfrifol am yr argraff hon yn aml. Er enghraifft, nid yw’r Beibl yn dysgu bod y ddaear wedi ei chreu o fewn chwe diwrnod 24-awr.—Genesis 1:1; 2:4.
Yn achos rhai damcaniaethau gwyddonol, er bod llawer yn eu derbyn, mae nifer o wyddonwyr uchel eu parch yn eu gwrthod oherwydd diffyg tystiolaeth. Er enghraifft, gan fod cynllun bwriadol i’w weld ym myd natur, rydyn ni’n cytuno â llawer o fiolegwyr, cemegwyr, ac eraill sydd wedi dod i’r casgliad nad yw pethau byw wedi esblygu drwy broses o fwtaniadau ar hap a dethol naturiol.
a Ysgrifennodd y ffisegydd ac enillydd gwobr Nobel, Erwin Schrödinger, fod gwyddoniaeth “yn ofnadwy o ddistaw am bopeth . . . sydd yn wir agos at ein calonnau, sydd o wir bwys inni.” A dywedodd Albert Einstein: “Drwy brofiad poenus rydyn ni wedi dysgu na fyddwn ni’n datrys problemau cymdeithas drwy ddibynnu ar y meddwl rhesymegol yn unig.”