Neidio i'r cynnwys

Ai Protestaniaid yw Tystion Jehofa?

Ai Protestaniaid yw Tystion Jehofa?

 Nac ydyn. Mae Tystion Jehofa yn Gristnogion, ond dydyn ni ddim yn ystyried ein hunain yn Brotestaniaid. Pam felly?

 Mae Protestaniaeth wedi cael ei diffinio fel “mudiad crefyddol sy’n gwrthwynebu Catholigiaeth Rufeinig.” Er bod Tystion Jehofa yn anghytuno â dysgeidiaethau’r Eglwys Gatholig, dydyn ni ddim yn Brotestaniaid am y rhesymau canlynol:

  1.   Mae nifer o ddysgeidiaethau Protestannaidd yn mynd yn groes i’r hyn y mae’r Beibl yn ei wir ddysgu. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dysgu mai “un Duw sydd,” nid Trindod. (1 Timotheus 2:5; Ioan 14:28) Ac mae’n dangos yn glir bod Duw yn cosbi’r drygionus, nid mewn tân uffern, ond drwy eu dinistrio am byth.​—Salm 37:9; 2 Thesaloniaid 1:9.

  2.   Dydyn ni ddim yn protestio yn erbyn yr Eglwys Gatholig nac unrhyw grefydd arall, nac yn ceisio eu diwygio. I’r gwrthwyneb, rydyn ni’n dysgu’r newyddion da am Deyrnas Dduw, gan geisio helpu eraill i fagu ffydd yn y newyddion da. (Mathew 24:14; 28:19, 20) Does gennyn ni ddim diddordeb mewn diwygio crefyddau eraill, ond rydyn ni yn awyddus i helpu pobl sy’n dangos gwir ddiddordeb yn Nuw ac yn ei Air, y Beibl.​—Colosiaid 1:​9, 10; 2 Timotheus 2:​24, 25.