Ydy Tystion Jehofa yn Erbyn Cael eu Brechu?
Nac ydyn. Dydy Tystion Jehofa ddim yn erbyn cael eu brechu. P’un a ydy rhywun yn cael brechiad neu beidio, mae’n benderfyniad personol i bob Cristion ei wneud drosto’i hun. Mae llawer o Dystion Jehofa yn dewis cael eu brechu.
Rydyn ni eisiau gofal meddygol o ansawdd da, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’r camau mawr mae gwyddoniaeth feddygol wedi eu gwneud i leihau’r risg o salwch difrifol. Hoffwn ddiolch i weithwyr gofal iechyd am eu holl waith caled a’u dycnwch, yn enwedig ar adegau o greisis.
Mae Tystion Jehofa yn cydweithio gyda swyddogion iechyd cyhoeddus. Er enghraifft, ers i’r pandemig COVID-19 fynd ar led, mae Tystion Jehofa wedi dal ati i gyhoeddi erthyglau mewn cannoedd o ieithoedd ar y wefan hon, yn atgoffa ac annog pobl i ufuddhau i’r canllawiau diogelwch lleol. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys y pwysigrwydd o gadw pellter cymdeithasol a dilyn cyfarwyddiadau ynglŷn ag ymgynnull yn gyhoeddus, cwarantîn, golchi dwylo, a gwisgo mygydau, yn ogystal â mesurau ymarferol eraill bydd yr awdurdodau yn gofyn amdanyn nhw neu yn eu hargymell.—Rhufeiniaid 13:1, 2.
Ers degawdau, mae cyhoeddiadau Tystion Jehofa wedi pwysleisio’r egwyddorion canlynol:
Mae penderfyniadau gofal iechyd yn fater personol.—Galatiaid 6:5.
”Dydy’r [cylchgrawn hwn] ddim yn argymell un math o feddyginiaeth neu therapi dros y llall nac yn cynnig cyngor meddygol chwaith. Ei nod yw cyflwyno’r ffeithiau a gadael i’r darllenwr barnu a phenderfynu drosto’i hun.”—Awake!, Chwefror 8, 1987.
“Mae’r cwestiwn p’un a ddylech chi neu’ch plant gael eich brechu yn benderfyniad personol.”—Awake!, Awst 22, 1965.
Rydyn ni’n chwilio am driniaeth feddygol am fod bywyd yn werthfawr iawn yn ein golwg.—Actau 17:28, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.
“Mi fydd y Tystion yn mynd at weithwyr meddygol proffesiynol i gael help gyda’u problemau iechyd. Maen nhw’n caru bywyd ac maen nhw eisiau gwneud beth bynnag sy’n rhesymol ac yn Ysgrythurol i fyw mor hir ag sy’n bosib.”—The Watchtower, Gorffennaf 1, 1975.
“Mae Tystion Jehofa yn hapus i gymryd meddyginiaeth a thriniaeth feddygol. Maen nhw eisiau cadw eu hiechyd da a byw mor hir â phosib. A’r ffaith yw, fel y Cristion Luc yn y ganrif gyntaf, mae rhai o Dystion Jehofa yn ddoctoriaid. . . . Mae Tystion Jehofa yn bendant yn gwerthfawrogi gwaith caled ac ymroddiad y rhai sy’n rhoi gofal meddygol. Maen nhw hefyd yn ddiolchgar pan fydd yr unigolion hynny’n helpu nhw i deimlo’n well.”—The Watchtower, Chwefror 1, 2011.