A Oes Gan Dystion Jehofa Reolau Ynglŷn â Chanlyn?
Mae Tystion Jehofa yn credu bod yr egwyddorion a’r gorchmynion sydd i’w cael yn y Beibl yn gallu ein helpu ni i wneud penderfyniadau sy’n plesio Duw ac sydd o les inni. (Eseia 48:17, 18) Nid y ni a greodd yr egwyddorion a’r gorchmynion hyn, ond rydyn ni’n dewis byw yn unol â nhw. Ystyriwch sut mae rhai ohonyn nhw’n berthnasol i ganlyn. a
Partneriaeth barhaol yw priodas. (Mathew 19:6) Oherwydd bod Tystion Jehofa yn ystyried canlyn fel cam sy’n arwain at briodas, rydyn ni yn ei gymryd o ddifrif.
Dim ond ar gyfer y rhai sy’n ddigon hen i briodi yw canlyn. Dylai’r rhai hyn fod “wedi hen gyrraedd oed priodi,” neu fod wedi pasio’r oedran pryd y mae chwantau rhywiol ar eu cryfaf.—1 Corinthiaid 7:36, troednodyn.
Dylai’r rhai sy’n canlyn fod yn rhydd i briodi. Nid yw rhai pobl sydd wedi ysgaru yng ngolwg y gyfraith yn rhydd i briodi yng ngolwg Duw, gan mai anfoesoldeb rhywiol yw’r unig sail ddilys ar gyfer ysgariad yn ôl ei Air.—Mathew 19:9.
Mae Cristnogion sy’n dymuno priodi yn cael eu gorchymyn i ddewis dim ond cyd-grediniwr fel cymar. (1 Corinthiaid 7:39) Cred Tystion Jehofa yw bod y gorchymyn hwn yn cyfeirio at unigolyn sydd nid yn unig yn parchu ein daliadau ond yn rhywun sy’n rhannu ac yn arfer y daliadau hynny ac sy’n Dyst sydd wedi ei fedyddio. (2 Corinthiaid 6:14) Mae Duw bob amser wedi gorchymyn ei addolwyr i briodi dim ond y rhai sy’n rhannu’r un ffydd. (Genesis 24:3; Malachi 2:11) Mae’r gorchymyn hwn yn ymarferol, fel y mae ymchwilwyr modern wedi cydnabod. b
Dylai plant fod yn ufudd i’w rhieni. (Diarhebion 1:8; Colosiaid 3:20) I blant sy’n byw gartref, mae’r gorchymyn hwn yn cynnwys ufuddhau i benderfyniadau eu rhieni ynglŷn â chanlyn. Gall hyn gynnwys yr oedran pryd y gallai mab neu ferch ddechrau canlyn a’r math o weithgareddau sy’n cael eu caniatáu.
O fewn y cyfarwyddiadau Ysgrythurol, mae gan bob Tyst yr hawl i ddewis a ddylai ganlyn neu beidio a phwy y dylen nhw ei ganlyn. Mae hyn yn unol â’r egwyddor: “Oherwydd bydd gan bob un ei bwn ei hun i’w gario.” (Galatiaid 6:5) Ond eto, mae llawer yn gofyn am gyngor ynglŷn â chanlyn oddi wrth Dystion aeddfed sy’n gwybod beth sydd orau iddyn nhw.—Diarhebion 1:5.
Mewn gwirionedd, mae llawer o’r arferion sy’n gyffredin i ganlyn yn bechodau difrifol. Er enghraifft, mae’r Beibl yn ein gorchymyn i osgoi anfoesoldeb rhywiol. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig gyfathrach rywiol ond hefyd gweithredoedd aflan eraill rhwng dau sydd heb briodi, megis mastyrbio rhywun nad yw’n briod â chi, rhyw geneuol, a rhyw rhefrol. (1 Corinthiaid 6:9-11) Mae hyd yn oed ymddygiad cyn priodi sy’n cyffroi’r chwantau ond nad yw’n mynd mor bell ag anfoesoldeb rhywiol yn “amhurdeb” sy’n digio Duw. (Galatiaid 5:19-21) Hefyd, mae sgyrsiau anfoesol sy’n cynnwys siarad yn frwnt neu’n fudr yn cael eu condemnio yn y Beibl.—Colosiaid 3:8.
Mae’r galon, y person mewnol, yn dwyllodrus. (Jeremeia 17:9) Gall y galon achosi i rywun wneud pethau y mae’n gwybod sy’n anghywir. Er mwyn peidio â gadael i’w calonnau eu twyllo nhw, mae cyplau sy’n canlyn yn osgoi bod ar eu pennau eu hunain mewn sefyllfaoedd lle gall temtasiwn godi. Gallan nhw ddewis cymryd camau doeth fel aros yng nghwmni grŵp o bobl gall, neu drefnu i gael siaperon addas gyda nhw. (Diarhebion 28:26) Mae Cristnogion sengl sy’n chwilio am rywun i’w briodi yn cydnabod bod edrych ar wefannau canlyn ar-lein yn beryglus, ac yn medru arwain at ddatblygu perthynas â rhywun nad ydyn nhw’n gwybod fawr ddim amdanyn nhw.—Salm 26:4.
a Mae canlyn yn rhan o rai diwylliannau ond nid rhai eraill. Dydy’r Beibl ddim yn dweud bod rhaid inni ganlyn nac ychwaith yn dweud mai canlyn yw’r unig ffordd sy’n arwain at briodi.
b Er enghraifft, roedd erthygl yn y cyfnodolyn Marriage & Family Review yn dweud bod “tair astudiaeth ansoddol o briodasau hirdymor wedi dangos bod cael yr un tueddiad crefyddol, yr un ffydd grefyddol, a’r un daliadau crefyddol i gyd yn ffactorau cwbl allweddol mewn priodasau hirdymor (25-50+ o flynyddoedd).”—Cyfrol 38, rhifyn 1, tudalen 88 (2005).