Ydy Tystion Jehofa’n Gorfodi Eu Plant i Ddilyn Eu Ffydd?
Nac ydyn. Penderfyniad personol ydy addoli Duw. (Rhufeiniaid 14:12) Mae Tystion Jehofa yn dysgu egwyddorion y Beibl i’w plant, ond pan fydd y plant yn hŷn, bydd pob un yn dewis drosto ef ei hun a fydd yn dod yn un o Dystion Jehofa neu beidio.—Rhufeiniaid 12:2; Galatiaid 6:5.
Fel y rhan fwyaf o rieni, mae Tystion Jehofa eisiau’r bywyd gorau ar gyfer eu plant. Maen nhw’n awyddus i’w plant ddysgu pethau a fydd o les iddyn nhw, gan gynnwys sgiliau ymarferol, egwyddorion moesol, a dysgeidiaethau crefyddol. Mae Tystion Jehofa hefyd yn credu bod y Beibl yn dangos inni beth yw’r ffordd orau i fyw. Felly maen nhw’n ceisio meithrin cariad at safonau y Beibl yn eu plant drwy ei astudio fel teulu a mynd i gyfarfodydd Cristnogol. (Deuteronomium 6:6, 7) Wrth dyfu’n hŷn, bydd gan bob plentyn y wybodaeth sydd ei angen i benderfynu a yw’n dymuno dilyn ffydd ei rieni neu beidio.
Ydy Tystion Jehofa yn bedyddio babanod?
Nac ydyn. Nid yw’r Beibl yn dweud y dylai babanod gael eu bedyddio. Er enghraifft, cyn i Gristnogion yn y ganrif gyntaf gael eu bedyddio, roedden nhw’n clywed y neges, yn teimlo’n ‘hapus i’w derbyn,’ ac yn edifarhau. (Actau 2:14, 22, 38, 41) Felly er mwyn cael ei fedyddio mae’n rhaid i rywun fod yn ddigon hen i ddeall a chredu beth mae’r Beibl yn ei ddysgu, ac i benderfynu dilyn y dysgeidiaethau hynny yn ei fywyd. Mae’n amhosib i fabanod wneud y pethau hyn.
Wrth i blant dyfu’n hŷn, efallai byddan nhw’n dewis cael eu bedyddio. Ond er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid iddyn nhw ddeall yr ymrwymiad maen nhw’n ei wneud.
Ydy Tystion Jehofa yn troi cefn ar blant sy’n dewis peidio â chael eu bedyddio?
Nac ydyn. Mae rhieni’n teimlo’n drist os nad yw eu plant yn dewis dilyn eu ffydd, ond maen nhw’n dal i’w caru. Fydd penderfyniad plentyn i beidio â dod yn un o Dystion Jehofa ddim yn rheswm i’r rhieni dorri’r berthynas.
Pam mae Tystion Jehofa’n mynd â’u plant gyda nhw wrth bregethu?
Rydyn ni’n gwneud hyn am nifer o resymau. a
Mae’r Beibl yn dweud y dylai rhieni ddysgu eu plant am Dduw a’u hyfforddi i’w addoli. (Effesiaid 6:4) Mae addoli Duw yn cynnwys datgan ein ffydd yn gyhoeddus, felly mae pregethu’n rhan bwysig o addysg ysbrydol y plentyn.—Rhufeiniaid 10:9, 10; Hebreaid 13:15.
Mae’r Beibl yn annog plant i “foli enw’r ARGLWYDD.” (Salm 148:12, 13) Un ffordd bwysig inni foli Duw yw drwy siarad â phobl eraill amdano. b
Mae plant yn dysgu sgiliau ymarferol drwy bregethu gyda’u rhieni. Er enghraifft, maen nhw’n dysgu cyfathrebu â phobl o bob math, cydymdeimlo, bod yn garedig, yn barchus, ac yn anhunanol. Maen nhw hefyd yn dysgu mwy am y sail Ysgrythurol i’w ffydd.
Ydy Tystion Jehofa yn cymryd rhan mewn gwyliau neu ddathliadau eraill?
Ni fydd Tystion Jehofa yn cymryd rhan mewn gwyliau crefyddol na dathliadau eraill sydd ddim yn plesio Duw. c (2 Corinthiaid 6:14-17; Effesiaid 5:10) Er enghraifft, fyddwn ni ddim yn dathlu penblwyddi na’r Nadolig, gan nad oes sail Gristnogol i’r dathliadau hyn.
Serch hynny, rydyn ni’n mwynhau treulio amser gyda’n teuluoedd a rhoi anrhegion i’n plant. Yn lle gadael i’r calendr reoli’r pethau hyn, rydyn ni’n dod at ein gilydd ac yn rhoi anrhegion drwy’r flwyddyn.
a Gan amlaf, ni fydd plant Tystion Jehofa yn cymryd rhan yn ein gwaith pregethu heb fod yng nghwmni un o’u rhieni neu oedolyn cyfrifol arall.
b Mae’r Beibl yn sôn am nifer o blant oedd yn plesio Duw drwy siarad ag eraill am eu daliadau.—2 Brenhinoedd 5:1-3; Mathew 21:15, 16; Luc 2:42, 46, 47.
c Gweler yr erthygl “Pam Nad Ydy Tystion Jehofa yn Dathlu Rhai Gwyliau?”
d Newidiwyd rhai enwau.