Ydy Tystion Jehofa yn Sect neu Enwad Americanaidd?
Mae ein pencadlys wedi ei sefydlu yn yr Unol Daleithiau. Ond, dydyn ni ddim yn sect neu enwad Americanaidd am y rhesymau canlynol:
Mae rhai yn diffinio sect fel grŵp sydd wedi torri o grefydd sefydledig. Dydy Tystion Jehofa ddim wedi torri allan o unrhyw grefydd. Yn lle hynny, teimlwn ein bod ni wedi ail-sefydlu’r ffurf o Gristnogaeth a gafodd ei hymarfer yn y ganrif gyntaf.
Mae Tystion Jehofa yn weithgar yn eu gweinidogaeth mewn mwy na 230 o wledydd. Lle bynnag rydyn ni’n byw, Jehofa Dduw a Iesu Grist sy’n dod yn gyntaf yn ein bywydau, nid llywodraeth Americanaidd nac unrhyw lywodraeth arall.—Ioan 15:19; 17:15, 16.
Sylfaen ein holl ddysgeidiaethau yw’r Beibl, nid gwaith rhyw arweinydd crefyddol yn yr Unol Daleithiau.—1 Thesaloniaid 2:13.
Rydyn ni’n dilyn Iesu Grist, nid unrhyw arweinydd dynol.—Mathew 23:8-10.