Pam Mae Tystion Jehofa yn Niwtral o Ran Gwleidyddiaeth?
Mae Tystion Jehofa yn niwtral o ran gwleidyddiaeth am resymau crefyddol, yn seiliedig ar ddysgeidiaeth y Beibl. Dydyn ni ddim yn pleidleisio mewn etholiadau nac yn lobïo. Dydyn ni ddim yn ymgeisio am swyddi gwleidyddol, nac yn gweithredu mewn unrhyw ffordd i newid llywodraethau. Credwn fod rhesymau cadarn yn y Beibl dros y safiad hwn.
Gwrthododd Iesu dderbyn swydd wleidyddol ac rydyn ni’n dilyn ei esiampl. (Ioan 6:15) Dywedodd Iesu na fyddai ei ddisgyblion “yn perthyn i’r byd” a dangosodd yn glir na ddylen nhw ochri â’r naill ochr na’r llall mewn materion gwleidyddol.—Ioan 17:14, 16; 18:36; Marc 12:13-17.
Rydyn ni’n deyrngar i Deyrnas Dduw. Dyma’r deyrnas y cyfeiriodd Iesu ati pan ddywedodd: “Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy’r byd i gyd.” (Mathew 24:14) Rydyn ni’n cynrychioli Teyrnas Dduw ac mae comisiwn gennyn ni i’w cyhoeddi. Felly arhoswn yn niwtral mewn materion gwleidyddol ym mhob gwlad, gan gynnwys y wlad rydyn ni’n byw ynddi.—2 Corinthiaid 5:20; Effesiaid 6:20.
Drwy aros yn niwtral rydyn ni’n rhydd i rannu’r newyddion da am Deyrnas Dduw â phobl o bob argyhoeddiad gwleidyddol. Ceisiwn ddangos, mewn gair a gweithred, ein bod ni’n dibynnu ar Deyrnas Dduw i ddatrys problemau’r byd.—Salm 56:11.
Drwy osgoi rhwygiadau gwleidyddol, rydyn ni’n cadw ein hundod fel teulu rhyngwladol. (Colosiaid 3:14; 1 Pedr 2:17) Ar y llaw arall, mae crefyddau sy’n ymyrryd â gwleidyddiaeth yn creu rhaniadau ymhlith eu haelodau.—1 Corinthiaid 1:10.
Parchu llywodraeth. Er nad ydyn ni’n cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, rydyn ni’n parchu awdurdod y llywodraethau le bynnag rydyn ni’n byw. Mae hyn yn cyd-fynd â’r gorchymyn yn y Beibl: “Y mae’n rhaid i bob un ymostwng i’r awdurdodau sy’n ben.” (Rhufeiniaid 13:1) Rydyn ni’n ufuddhau i’r gyfraith, yn talu ein trethi, ac yn cydweithio ag ymdrechion y llywodraeth i ofalu am les ei dinasyddion. Yn hytrach na chymryd rhan mewn unrhyw ymgais i danseilio’r llywodraeth, rydyn ni’n dilyn cyngor y Beibl i weddïo “dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod,” yn enwedig pan fyddan nhw’n penderfynu ar faterion all effeithio ar ein rhyddid i addoli.—1 Timotheus 2:1, 2.
Parchwn hawl pobl eraill i benderfynu drostyn nhw eu hunain mewn materion gwleidyddol. Er enghraifft, ni fyddwn yn amharu ar etholiadau nac yn ymyrryd â’r rhai sy’n dewis pleidleisio.
Ai peth newydd yw ein niwtraliaeth? Nac ydy. Roedd yr apostolion a Christnogion eraill yn y ganrif gyntaf yn cymryd yr un safiad tuag at awdurdod y llywodraeth. Dywed y llyfr Beyond Good Intentions: “Er i’r Cristnogion cynnar gredu eu bod dan ddyletswydd i barchu llywodraethau’r dydd, nid oeddent yn credu y dylent gymryd rhan mewn materion gwleidyddol.” Yn yr un modd, dywed y llyfr On the Road to Civilization fod y Cristnogion cynnar “yn gwrthod dal unrhyw swydd wleidyddol.”
A yw ein niwtraliaeth yn fygythiad i ddiogelwch cenedlaethol? Dim o gwbl. Dinasyddion heddychlon ydyn ni. Nid oes gan lywodraethau ddim byd i’w ofni oddi wrthon ni. Ystyriwch adroddiad a gyhoeddwyd yn 2001 gan Academi Genedlaethol y Gwyddorau yn Wcráin. Wrth drafod ein niwtraliaeth wleidyddol, dywedodd yr adroddiad: “Mae’n bosibl na fydd rhai heddiw yn hoffi safiad Tystion Jehofa; dyna un o’r rhesymau sylfaenol iddyn nhw gael eu cyhuddo gan lywodraethau totalitaraidd y Natsïaid a’r Comiwnyddion yn y gorffennol.” Eto, hyd yn oed o dan ormes Sofietaidd, roedd y Tystion yn “aros yn ufudd i’r gyfraith. Gweithwyr gonest ac anhunanol oedden nhw, ar y ffermydd cyfunol ac yn y ffatrïoedd. Nid oedden nhw’n fygythiad i’r llywodraeth Gomiwnyddol.” Yn yr un modd heddiw, meddai’r adroddiad, nid yw daliadau nac arferion Tystion Jehofa yn “tanseilio diogelwch ac undeb unrhyw wlad.”