Beth Sy’n Digwydd Mewn Priodasau Tystion Jehofa?
Gan amlaf bydd priodasau Tystion Jehofa yn cynnwys seremoni syml ac urddasol gydag anerchiad byr sy’n seiliedig ar y Beibl. Ar ôl y seremoni efallai bydd parti neu bryd o fwyd. a Aeth Iesu i wledd briodas yn ninas Cana yn fuan ar ôl dechrau ei weinidogaeth.—Ioan 2:1-11.
Beth sy’n digwydd yn y seremoni?
Prif ran y seremoni yw’r anerchiad, sy’n para tua 30 munud ac sy’n cael ei draddodi gan un o weinidogion Tystion Jehofa. Bydd y drafodaeth galonogol yn dangos sut mae’r Beibl yn gallu helpu’r cwpl i gael priodas gariadus, hapus, a pharhaol.—Effesiaid 5:33.
Mewn llawer o wledydd, mae’r llywodraeth yn rhoi awdurdod i weinidogion Tystion Jehofa i weinyddu priodasau. Os felly, tua diwedd yr anerchiad bydd y cwpl yn gwneud addunedau. Efallai byddan nhw hefyd yn cyfnewid modrwyau. Mae’r gweinidog wedyn yn cyhoeddi eu bod nhw’n ŵr a gwraig.
Mewn gwledydd eraill, mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i bobl briodi mewn swyddfa gofrestru. Bydd y cwpl yn gwneud hyn yn fuan cyn yr anerchiad priodas. Os na wnaethon nhw addunedau yn y seremoni sifil, gallan nhw wneud hynny tua diwedd yr anerchiad. Os gwnaethon nhw addunedau, gallan nhw ddewis eu hailadrodd, ond y tro hwn gan siarad yn amser y gorffennol. Ar ddiwedd yr anerchiad bydd gweddi i ofyn am fendith Duw ar y briodas.
Ble mae priodasau Tystion Jehofa yn cael eu cynnal?
Mae llawer o Dystion yn dewis cynnal seremoni’r briodas yn Neuadd y Deyrnas, os bydd un ar gael. b Os bydd dathliad wedyn, bydd hwnnw’n cael ei gynnal yn rhywle arall.
Pwy all fynd i’r briodas?
Os bydd y briodas yn cael ei chynnal yn Neuadd y Deyrnas, mae fel arfer yn agored i bawb—boed nhw’n Dystion neu beidio. Os bydd gwledd yn dilyn, y cwpl sy’n dewis y gwesteion.
A oes rhaid gwisgo’n smart?
Nid oes cod gwisg penodol ar gyfer priodasau yn Neuadd y Deyrnas, ond mae Tystion Jehofa yn dilyn cyngor y Beibl i wisgo yn wylaidd ac mewn ffordd sy’n parchu’r achlysur. Maen nhw’n ddiolchgar pan fydd eraill yn gwneud yr un fath. (1 Timotheus 2:9) Wrth gwrs mae’r un peth yn wir am y wledd neu’r parti, os ydy’r cwpl yn dewis cael un.
A fydd pobl yn rhoi anrhegion?
Mae’r Beibl yn ein hannog i fod yn hael. (Salm 37:21) Mae Tystion Jehofa yn hapus i roi ac i dderbyn anrhegion priodas. (Luc 6:38) Ond ni fydd Tystion yn mynnu anrhegion nac yn cyhoeddi enwau’r rhai sy’n eu rhoi. (Mathew 6:3, 4; 2 Corinthiaid 9:7; 1 Pedr 3:8) Mae arferion o’r fath yn mynd yn groes i gyngor y Beibl, ac yn gwneud i westeion deimlo’n annifyr.
A fydd llwncdestun?
Na fydd. Nid yw Tystion Jehofa yn cynnig llwncdestunau, gan fod y traddodiad â gwreiddiau mewn arferion gau grefydd. c Mae’r Tystion yn dymuno’n dda i’r cwpl mewn ffyrdd eraill.
A fydd pobl yn taflu reis neu gonffeti?
Na fyddan. Mewn rhai gwledydd mae pobl yn taflu reis, conffeti, neu rywbeth tebyg ar y cwpl sydd newydd briodi. Maen nhw’n credu bydd hyn yn dod â lwc, hapusrwydd, a hir oes iddyn nhw. Ond mae Tystion Jehofa yn osgoi arferion sydd â chysylltiad ofergoelus. Mae hyn yn cynnwys gofyn i ‘Ffawd’ am lwc dda, sy’n groes i egwyddorion y Beibl.—Eseia 65:11.
A fydd bwyd a diod yn y parti?
Nid yw’r seremoni yn Neuadd y Deyrnas yn cynnwys bwyd a diod. Mae rhai cyplau yn dewis cynnal gwledd wedyn. (Pregethwr 9:7) Os ydyn nhw’n dewis cael diodydd meddwol, byddan nhw’n sicrhau nad oes gormod ar gael, a hynny dim ond i’r rhai sy’n ddigon hen i’w yfed yn gyfreithlon.—Luc 21:34; Rhufeiniaid 13:1, 13.
A fydd cerddoriaeth neu ddawnsio?
Os yw’r cwpl yn dewis cael parti, gallan nhw ddewis cael cerddoriaeth a dawnsio neu beidio. (Pregethwr 3:4) Bydd y gerddoriaeth yn chwaethus, ond yn amrywio yn ôl dewis personol a diwylliant y cwpl. Bydd y seremoni yn Neuadd y Deyrnas yn aml yn cynnwys cerddoriaeth â themâu sy’n seiliedig ar y Beibl.
A ydy Tystion Jehofa yn dathlu penblwyddi priodas?
Gan nad oes unrhyw egwyddorion yn y Beibl sydd o blaid neu yn erbyn dathlu penblwyddi priodas, mae Tystion yn penderfynu drostyn nhw ei hunain a fyddan nhw’n dathlu penblwyddi priodas ai peidio. Os ydyn nhw’n dathlu, eu dewis nhw yw gwneud hynny yn breifat, neu yng nghwmni eu ffrindiau a’u teuluoedd.
a Bydd arferion penodol a gofynion y gyfraith yn amrywio o le i le.
b Nid yw’r gweinidog yn codi tâl am y seremoni, ac nid oes tâl am ddefnyddio Neuadd y Deyrnas.
c Am fwy o wybodaeth ar wreiddiau paganaidd llwncdestunau, gweler “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw,” tudalen 154, paragraff 19, 20, a “Questions From Readers” yn y Watchtower, Chwefror 15, 2007.