Ydy Tystion Jehofa yn Rhoi Cymorth yn Ystod Trychinebau?
Ydyn, rhan amlaf mae Tystion Jehofa yn helpu pan fo trychineb. Rydyn ni’n rhoi cymorth ymarferol i Dystion Jehofa ac i eraill, yn unol â gorchymyn y Beibl yn Galatiaid 6:10: “Gadewch inni wneud da i bawb, ac yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd.” Rydyn ni hefyd yn rhoi’r cymorth ysbrydol ac emosiynol i ddioddefwyr sydd eu gwir angen ar adegau fel hyn.—2 Corinthiaid 1:3, 4.
Trefnu
Ar ôl trychineb, mae henuriaid y cynulleidfaoedd cyfagos yn cysylltu â phawb sy’n rhan o’r cynulleidfaoedd hynny er mwyn sicrhau eu bod nhw’n ddiogel ac i gael gwybod eu hanghenion. Yna, mae’r henuriaid yn casglu’r wybodaeth a’i hanfon i swyddfa agosaf Tystion Jehofa. Maen nhw hefyd yn anfon adroddiad o’r hyn sydd wedi cael ei wneud yn barod i ddarparu cymorth.
Os yw’r angen am gymorth y tu hwnt i allu’r cynulleidfaoedd lleol ei ddarparu, bydd Corff Llywodraethol Tystion Jehofa yn llenwi’r bwlch. Mae hynny’n debyg i’r ffordd y gwnaeth Cristnogion y ganrif gyntaf helpu ei gilydd yn ystod newyn. (1 Corinthiaid 16:1-4) Mae’r swyddfa gangen agosaf yn penodi pwyllgorau i drefnu ac arwain y gwaith cymorth. Mae Tystion o ardaloedd eraill yn gwirfoddoli eu hamser a’u hadnoddau er mwyn helpu.—Diarhebion 17:17.
Ariannu
Pan fydd arian yn cael ei anfon at swyddfeydd Tystion Jehofa, mae rhan ohono yn cael ei ddefnyddio i helpu pobl sydd wedi eu heffeithio gan drychinebau. (Actau 11:27-30; 2 Corinthiaid 8:13-15) Gwirfoddolwyr sy’n gwneud y gwaith hwn yn ddi-dâl, felly mae’r arian sydd wedi ei neilltuo yn cael ei ddefnyddio i roi cymorth yn hytrach na thalu am weinyddiaeth. Rydyn ni’n defnyddio pob cyfraniad yn ofalus iawn.—2 Corinthiaid 8:20.