Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Galw eu Man Cyfarfod yn Eglwys?
Yn y Beibl, mae’r term Groeg a gyfieithir “eglwys” yn cyfeirio at grŵp o addolwyr, nid at yr adeilad y maen nhw’n cyfarfod ynddo.
Nodwch yr esiampl hon: Pan ysgrifennodd yr apostol Paul at y Cristnogion yn Rhufain, anfonodd ei gyfarchion at Acwila a Priscila gan ychwanegu: “Fy nghyfarchion hefyd i’r eglwys sy’n ymgynnull yn eu tŷ.” (Rhufeiniaid 16:5) Doedd Paul ddim yn anfon ei gyfarchion at adeilad. Yn hytrach, cofio at bobl oedd ei fwriad—y gynulleidfa oedd yn cwrdd yn y tŷ hwnnw. a
Felly yn lle galw ein man addoli yn eglwys, defnyddiwn y term “Neuadd y Deyrnas.”
Pam “Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofa”?
Mae’r term yn briodol am nifer o resymau:
Neuadd yw’r adeilad, rhywle i ymgynnull.
Rydyn ni’n dod at ein gilydd i addoli Jehofa, Duw’r Beibl, ac i dystiolaethu amdano.—Salm 83:18; Eseia 43:12.
Rydyn ni’n cyfarfod i ddysgu am Deyrnas Dduw, teyrnas y siaradodd Iesu yn aml amdani.—Mathew 6:9, 10; 24:14; Luc 4:43.
Mae croeso cynnes i chi ymweld â Neuadd y Deyrnas yn eich ardal chi, er mwyn gweld sut mae Tystion Jehofa yn cynnal eu cyfarfodydd.
a Mae ymadroddion tebyg yn 1 Corinthiaid 16:19; Colosiaid 4:15; a Philemon 2.