Ydy’n Bosibl i Rywun Roi’r Gorau i Fod yn Un o Dystion Jehofa?
Ydy. Mae rhywun yn gallu ymadael â’n cyfundrefn mewn dwy ffordd:
Mewn cais ffurfiol. Ar lafar neu mewn llythyr, mae rhywun yn gallu mynegi ei benderfyniad i beidio â chael ei adnabod fel un o Dystion Jehofa.
Mewn gweithred. Mae rhywun yn gallu gwneud rhywbeth sy’n gwahanu ei hun oddi wrth ein brawdoliaeth fyd-eang. (1 Pedr 5:9) Er enghraifft, efallai bydd rhywun yn ymuno â chrefydd arall a gwneud ei benderfyniad yn hysbys.—1 Ioan 2:19.
Sut rydych chi’n trin pobl nad yw’n pregethu neu’n mynychu eich cyfarfodydd bellach? Ydych chi’n ystyried eu bod nhw wedi rhoi’r gorau i fod yn Dystion?
Nac ydyn. Mae rhywun sy’n ymadael, neu’n ymddiarddel, yn wahanol iawn i rywun sydd wedi gadael i’w ffydd wanhau. Ar y cyfan, nid yw’r rhai sydd wedi slofi neu wedi stopio addoli wedi cefnu ar eu ffydd, ond yn hytrach maen nhw’n dioddef o ddigalondid. (1 Thesaloniaid 5:14; Jwdas 22) Os yw angen cymorth ar yr unigolyn, mae henuriaid y gynulleidfa yn ddigon parod i roi cymorth ysbrydol.—Galatiaid 6:1; 1 Pedr 5:1-3.
Er hynny, does gan yr henuriaid ddim awdurdod o gwbl i orfodi neu i roi pwysau ar rywun i aros yn un o Dystion Jehofa. Mae gan bawb ddewis ynglŷn â chrefydd. (Josua 24:15) Rydyn ni’n credu bod y rhai sy’n addoli Duw yn gorfod ei addoli o’u gwirfodd ac o’r galon.—Salm 110:3; Mathew 22:37.