Neuadd Cynulliad Newydd yng Nghoedwig Law yr Amason
Yng nghanol coedwig law yr Amason, mae Tystion Jehofa wedi adeiladu Neuadd Cynulliad newydd. Mae’r safle i’r gogledd o ddinas Manaus, Brasil, ac mae’r rhan fwyaf o’r 52 hectar (128 erw) yn goedwig frodorol. Mae macawiaid lliwgar, twcaniaid, ac adar eraill yn sgrechian o frigau coed fel y goeden cupuaçu, y goeden cnau Brasil, a’r goeden angelim pedra. Pam roedd angen Neuadd Cynulliad yma?
Mae bron i ddwy filiwn o bobl yn byw yn y ddinas Manaus, tua 1,450 cilomedr (900 milltir) o aber yr Amason. Defnyddir y Neuadd gan ryw saith mil o Dystion o ddinas Manaus a’r trefi o’i chwmpas, gan gynnwys pentrefi ar hyd yr Amason a’r afonydd sy’n gysylltiedig â hi. Mae’r dref bellaf, sef São Gabriel da Cachoeira, yn fwy na 800 cilomedr (500 milltir) i’r gorllewin o Manaus. Er mwyn cyrraedd cynhadledd neu gynulliad yn y Neuadd, mae rhai o’r Tystion yn teithio am dridiau ar gwch!
Her aruthrol oedd codi neuadd yn ardal yr Amason. Roedd rhaid cludo deunyddiau adeiladu mewn 13 cynhwysydd llong o’r porthladd yn Santos, São Paulo, ar hyd arfordir Brasil, ac yna i fyny afon Amason i gyrraedd y safle.
Hon yw’r ddiweddaraf o 27 Neuadd Cynulliad i gael ei chodi ym Mrasil. Roedd 1,956 o bobl yn bresennol mewn cyfarfod i gysegru’r neuadd ar 4 Mai 2014. Dyma oedd y tro cyntaf i lawer fynd i gyfarfod mewn Neuadd Cynulliad, ac roedden nhw wrth eu boddau.
Roedd y gynulleidfa nid yn unig yn medru clywed y siaradwr, ond hefyd yn medru ei weld. Roedd hyn yn newid i’w groesawu oherwydd, yn y gorffennol cynhaliwyd cynulliadau a chynadleddau mewn llefydd lle roedd yn amhosibl gweld y llwyfan, heb sôn am y siaradwr. Dywedodd un Tyst, “Dw i wedi bod yn mynd i gynadleddau ers blynyddoedd, ond welais i erioed mo’r dramâu, dim ond eu clywed.” Mae pawb yn gallu gweld y llwyfan erbyn hyn.