Neuaddau’r Deyrnas ar Gyfer Miliwn o Dystion
Rhwng 1999 a 2015, cododd Tystion Jehofa dros 5,000 Neuadd y Deyrnas yng Nghanolbarth America a a Mecsico. Er mwyn ateb anghenion miliwn o Dystion ac eraill sy’n mynychu ein cyfarfodydd yn yr ardal hon, mae angen dros 700 Neuadd y Deyrnas yn ychwanegol.
Yn y gorffennol, roedd cynulleidfaoedd rhan yma o’r byd yn ei chael hi’n anodd codi addoldai. Ym Mecsico, er enghraifft, roedd y rhan fwyaf o Dystion yn cynnal eu cyfarfodydd mewn tai preifat. Pam felly? Un rheswm dros hynny oedd nad oedd y gyfraith yn caniatáu i fudiadau crefyddol fod yn berchen ar eiddo. Ond yn y 1990au fe newidiwyd y gyfraith a dechreuodd Tystion Jehofa adeiladu llawer o Neuaddau’r Deyrnas. Eto, roedd y broses o godi neuadd yn gallu cymryd misoedd.
Gwelliannau Cynyddol
Cyflymodd y broses ym 1999, pan ddechreuodd Grwpiau Adeiladu Neuaddau’r Deyrnas eu gwaith o dan raglen newydd i godi neuaddau, a hynny mewn gwledydd lle mae’r adnoddau’n brin, gan gynnwys Mecsico a saith o wledydd Canolbarth America. Ers 2010, mae swyddfa gangen Mecsico wedi arolygu’r gwaith adeiladu drwy’r rhanbarth i gyd.
Mae gweision adeiladu yn wynebu heriau arbennig wrth godi Neuaddau’r Deyrnas mewn ardaloedd anghysbell. Yn Panamâ, roedd yn rhaid i weision adeiladu deithio ar gwch am ryw dair awr ar hyd yr arfordir i gyrraedd eu prosiect. Ac yn nhalaith Chiapas ym Mecsico, roedd yn rhaid i’r grŵp adeiladu ddefnyddio awyren fach i gludo nwyddau adeiladu i safle oedd yn anodd ei gyrraedd.
Buddion Neuaddau’r Deyrnas Newydd
Mae hyd yn oed pobl nad ydyn nhw’n Dystion yn awyddus i weld Neuadd y Deyrnas newydd yn eu cymuned nhw. Er enghraifft, yn ôl dyn o Hondwras, cyn i’r Tystion adeiladu Neuadd y Deyrnas yn ei ardal, roedd gan eraill ddiddordeb i ddefnyddio’r tir ar gyfer clwb nos. Ond, doedd hynny ddim yn ei blesio. Pan ddywedodd Tystion Jehofa wrtho eu bod nhw’n cynllunio adeiladu Neuadd y Deyrnas ar y safle, fe waeddodd: “Dyna chi fendith!”
Mewn llawer o lefydd, mae dygnwch y gweithwyr yn creu argraff ar bobl sy’n gwylio. Dywedodd dyn o Gwatemala: “Gan amlaf, yn ein diwylliant ni, dim ond yn y gegin mae merched yn gweithio. Ond, mae’r merched fan hyn yn gwneud yr un gwaith â’r dynion. Dw i wedi synnu gweld merched yn gosod fframiau haearn a phlastro waliau. Mae hyn yn anhygoel!” Gwnaeth rhai o’r cymdogion hyd yn oed brynu bwyd a diodydd ar gyfer y gweithwyr.
Mae llawer yn gwerthfawrogi’r ffordd mae ein Neuaddau’r Deyrnas wedi cael eu dylunio. Yn Nicaragwa, dywedodd peiriannydd wrth faer y dref fod Neuadd y Deyrnas leol wedi ei chodi gyda’r deunydd gorau. Aeth mor bell a dweud bod yr adeilad o ansawdd uwch nag unrhyw un arall yn y ddinas!
Wrth gwrs, mae Tystion Jehofa wrth eu boddau i gael llefydd priodol i addoli ynddyn nhw.Maen nhw wedi sylwi bod myfyrwyr y Beibl yn fwy tebygol o ddod i gyfarfodydd y gynulleidfa ar ôl codi Neuadd y Deyrnas newydd. Mynegodd aelodau un gynulleidfa ym Mecsico a fuodd wrthi’n helpu gweision adeiladu eu gwerthfawrogiad fel hyn: “Diolchwn i Jehofa am y fraint gawson ni wrth godi Neuadd y Deyrnas, rhywbeth sy’n rhoi gogoniant ac anrhydedd i’w enw.”
a Yn ôl yr 11eg rhifyn o Merriam-Webster’s Collegiate Dictionary, mae Canolbarth America yn cynnwys gweriniaethau Gwatemala, El Salfador, Hondwras, Nicaragwa, Costa Rica, Panamâ, a Belîs.