Prydain—Oriel Luniau 1 (Rhwng Ionawr ac Awst 2015)
Mae Tystion Jehofa ym Mhrydain yn symud eu swyddfa gangen o Mill Hill yn Llundain i safle newydd rhyw 43 milltir i’r dwyrain ger dinas Chelmsford, Essex. Rhwng mis Ionawr a mis Awst 2015, sefydlwyd safleoedd cynorthwyol yn barod i’r prosiect adeiladu ddechrau.
23 Ionawr 2015—Safle’r Gangen
Gyda chaniatâd yr awdurdodau lleol, cafodd nifer o goed eu clirio i wneud lle ar gyfer y datblygiad. Cymerwyd pob gofal i gwblhau’r gwaith cyn dechrau’r tymor nythu. Defnyddir y sglodion pren i wneud llwybrau cerdded diogel, a bydd y pren ei hun yn cael ei ddefnyddio ar y prosiect.
30 Ionawr 2015—Safle arlwyo dros dro
Trydanwr yn gosod socedau trydan ar gyfer sgriniau fideo mewn adeilad a fu’n westy gynt. Mae bellach yn cael ei droi’n gegin ac yn ystafell fwyta. Bydd y sgriniau yn caniatáu i’r gweithwyr ymuno â’r teulu Bethel ar gyfer addoliad y bore, Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio, a rhaglenni ysbrydol eraill.
23 Chwefror 2015—Safle’r Gangen
Gweithwyr yn gosod ffens diogelwch a fydd yn amgylchynu darnau mawr o’r safle yn y pen draw. Gan fod yr ardal yn un wledig, mae gwaith ar droed i leihau effaith yr adeiladu ar fywyd gwyllt lleol. Er enghraifft, gadewir bwlch o ryw 20 centimetr (8 modfedd) ar waelod y ffens, sy’n caniatáu i greaduriaid y nos fel y moch daear barhau i chwilio am fwyd.
23 Chwefror 2015—Safle’r Gangen
Mae ffordd dros dro yn cael ei hadeiladu i gysylltu’r safle lletya dros dro â’r prif safle adeiladu.
5 Mawrth 2015—Safle’r Gangen
Yr olygfa o’r dwyrain, yn dangos y ffordd dros dro wedi ei chwblhau. Ar y dde uchaf, gwelir lle mae’r ffordd yn cyrraedd y prif safle adeiladu. Mae’r adeiladau a welir ar y chwith isaf yn cael eu troi’n fflatiau ar gyfer y rhai sy’n dod i weithio ar y prosiect. Bydd carafannau preswyl dros dro yn cael eu gosod yn y caeau cyfagos.
20 Ebrill 2015—Safle lletya dros dro
Daeth aelod o Gorff Llywodraethol Tystion Jehofa, a chynrychiolydd arall o’u pencadlys, i weld y gwirfoddolwyr. Yn nes ymlaen yr wythnos honno, cafodd cyfarfod arbennig ei ddarlledu i bob Neuadd y Deyrnas ym Mhrydain ac yn Iwerddon. Yno, cyhoeddwyd bod Cyngor Dinas Chelmsford wedi rhoi caniatâd cychwynnol y noson gynt i’r prosiect fynd yn ei flaen.
13 Mai 2015—Prif safle cynorthwyol
Gweithwyr yn gosod wyneb arbennig i warchod gwreiddiau dwy dderwen fawr lle mae’r ffordd yn croesi o’r prif safle cynorthwyol i’r prif safle adeiladu. Mae’r wyneb yn caniatáu i beiriannau trwm fynd drosodd heb niweidio gwreiddiau’r coed.
21 Mai 2015—Safle lletya dros dro
Tîm yn gweithio i agor ffosydd ar gyfer peipiau dŵr a cheblau trydan i’r unedau preswyl dros dro. Yn y cefndir gwelir rhai o’r 50 carafán breswyl ar gyfer y bobl a fydd yn dod i weithio ar y prosiect.
16 Mehefin 2015—Safle lletya dros dro
Plymwr yn gosod peipiau dŵr ar gyfer un o’r carafannau preswyl.
16 Mehefin 2015—Safle lletya dros dro
Yr olygfa o’r dwyrain yn dangos y carafannau a fydd yn gartrefi dros dro. Yn y tu blaen, gwelir y gwaith i osod sylfeini ar gyfer rhagor o unedau preswyl. Ar y chwith, gwelir adeiladau’r safle lletya, sydd yn cynnwys ystafell fwyta i’r gweithwyr. Caiff y gangen ei hadeiladu ar y tir a welir yng nghanol y llun, yn y cefndir.
16 Mehefin 2015—Safle lletya dros dro
Technegydd yn cysylltu dau ben cebl ffeibr optig yn yr ystafell telathrebu. Roedd angen rhwydwaith cyfrifiadurol a chysylltiad â’r rhyngrwyd yn gynnar yn y prosiect er mwyn rheoli’r gwaith adeiladu, cyfathrebu â changhennau eraill, a chydlynu popeth dan arweiniad swyddfeydd y pencadlys.
6 Gorffennaf 2015—Safle’r Gangen
Contractwr yn defnyddio offer GPS i benderfynu lle i agor ffosydd archwilio. Mae’r ffosydd hyn yn helpu archaeolegwyr i asesu’r safle cyn dechrau’r gwaith adeiladu. Er mai tref Rufeinig oedd Chelmsford ar un adeg, nid oes dim arteffactau o bwys wedi dod i’r golwg yn y 107 ffos a agorwyd yn ystod rhan gyntaf yr asesiad.
6 Gorffennaf 2015—Prif safle cynorthwyol
Torri architraf i ffitio drws. Mae rhai o’r adeiladau ar y prif safle cynorthwyol yn cael eu hadnewyddu a’u troi yn weithdai. Ar yr un safle, bydd swyddfeydd a gwasanaethau dros dro eraill.
6 Gorffennaf 2015—Prif safle cynorthwyol
Llwytho tryc dympio â phridd i’w ddefnyddio ar gyfer ôl-lenwi.
7 Gorffennaf 2015—Safle’r Gangen
Golygfa o gefn gwlad Prydain o ochr deheuol y safle 34 hectar (85 erw). Mae prif ffordd gyfagos (nas gwelir) yn gyfleus ar gyfer porthladdoedd, meysydd awyr, a chanol Llundain.
23 Gorffennaf 2015—Safle’r Gangen
Contractwyr yn dymchwel hen adeiladau i wneud lle ar gyfer adeiladau newydd y gangen.
20 Awst 2015—Prif safle cynorthwyol
Craen 60 tunnell yn gollwng rhan o gaban i’w le. Yn y tu blaen, gwelir sylfeini ar gyfer rhagor o gabanau a fydd yn cael eu defnyddio fel swyddfeydd hyd ddiwedd y prosiect.