Neidio i'r cynnwys

Wallkill​—Oriel Luniau 1 (Rhwng Gorffennaf 2013 a Hydref 2014)

Wallkill​—Oriel Luniau 1 (Rhwng Gorffennaf 2013 a Hydref 2014)

Mae Tystion Jehofa yn gwella ac ehangu eu hadeiladau yn Wallkill, Efrog Newydd. Yn yr oriel hon fe welwch peth o’r gwaith a wnaed rhwng Gorffennaf 2013 a Hydref 2014. Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2015.

Llun o’r awyr yn dangos canolfan Wallkill fel y bu ar 21 Hydref, 2013.

  1. Y Felin Flawd (dymchwelwyd ym mis Ionawr 2014)

  2. Estyniad ar gyfer gwaith golchi a sychlanhau

  3. Ffreutur

  4. Neuadd Breswyl E

  5. Swyddfeydd

  6. Argraffdy

  7. Shawangunk Kill (nant)

12 Gorffennaf, 2013​—Estyniad ar gyfer gwaith golchi a sychlanhau

Craen yn gosod paneli’r waliau allanol. Cafodd y paneli eu gwneud ar y safle.

19 Gorffennaf, 2013​—Neuadd Breswyl E

Gosod stribyn polymer wedi’i atgyfnerthu â ffibrau (stribyn FRP) mewn sianeli rhwng y trawstiau concrit (Dox Plank) yn llawr yr adeilad. Defnyddiwyd tua 7,600 metr (25,000 troedfedd) o ddeunydd ffibr carbon i ddiogelu’r adeilad rhag daeargrynfeydd.

5 Awst, 2013​—Neuadd Breswyl E

Gwaith cynnal a chadw ar y waliau allanol.

30 Awst, 2013​—Estyniad ar gyfer gwaith golchi a sychlanhau

Gosod fframwaith dur yr ystafell ar gyfer y peiriannau.

17 Medi, 2013​—Neuadd Breswyl E

Torri’r ffelt newydd ar gyfer y to.

15 Hydref, 2013​—Neuadd Breswyl E

Archwilio’r stribyn polymer. Os canfyddir bylchau y tu ôl iddo, gosodir mwy o stribedi FRP.

15 Tachwedd, 2013​—Estyniad ar gyfer gwaith golchi a sychlanhau

Mae’r gwaith ar y to yn cynnwys gosod ffan echdynnu newydd.

9 Rhagfyr, 2013​—Neuadd Breswyl E

Chwistrellu glud arbennig i mewn i’r craciau bach rhwng y trawstiau concrit. Cymerodd tua deunaw mis i gwblhau’r gwaith i ddiogelu’r adeilad rhag daeargrynfeydd.

11 Rhagfyr, 2013​—Estyniad ar gyfer gwaith golchi a sychlanhau

Gwaith paratoi ar gyfer gorsaf pwmpio dŵr gwastraff.

10 Ionawr, 2014​—Y Felin Flawd

Tynnu allan y codwr grawn a ddefnyddiwyd o’r 1960au tan 2008. Pan roddwyd y gorau i gadw ieir, gwartheg godro, a moch, nid oedd ei angen mwyach.

22 Ionawr, 2014​—Swyddfeydd

Tynnu’r seddi cyn cychwyn ar y gwaith o adnewyddu’r awditoriwm.

29 Ionawr, 2014​—Y Felin Flawd

Cedwid bwyd anifeiliaid yn y storfeydd hyn.

3 Mawrth, 2014​—Argraffdy

Paratoi cartref newydd i’r Adran Sgiliau Technegol.

4 Gorffennaf, 2014​—Swyddfeydd

Weldiwr yn atgyfnerthu colofn sy’n rhan o fframwaith yr adeilad.

19 Medi, 2014​—Ffreutur (Neuadd Breswyl E)

Gosod y carped mewn ardal a fu’n ffreutur ar gyfer yr adeiladwyr.

22 Medi, 2014​—Neuadd Breswyl E

Gorffen y waliau mewnol yn y lobi gron ar y llawr isaf.

24 Medi, 2014​—Swyddfeydd

Paratoi barau dur ar gyfer siafft y lifft newydd.

2 Hydref, 2014​—Ffreutur (Neuadd Breswyl E)

Mae’r ffreutur wedi ei ehangu i greu lle i hyd at 1,980 o bobl.

22 Hydref, 2014​—Swyddfeydd

Gwaith i wella sylfaen un o’r colofnau. Bydd y gwaith yn helpu i ddiogelu’r adeilad rhag daeargrynfeydd.