Neidio i'r cynnwys

Warwick—Oriel Luniau 2 (Rhwng Medi a Rhagfyr 2014)

Warwick—Oriel Luniau 2 (Rhwng Medi a Rhagfyr 2014)

Yn yr oriel luniau hon, fe welwch sut mae’r gwaith ar bencadlys Tystion Jehofa wedi dod yn ei flaen rhwng Medi a Rhagfyr 2014.

Model cyfrifiadurol o ganolfan Warwick. Yn glocwedd o’r gornel chwith uchaf:

  1. Adeilad Trwsio Cerbydau

  2. Parcio i Ymwelwyr

  3. Adeilad Cynnal a Chadw/Parcio i Breswylwyr

  4. Neuadd Breswyl B

  5. Neuadd Breswyl D

  6. Neuadd Breswyl C

  7. Neuadd Breswyl A

  8. Swyddfeydd

11 Medi 2014​—Parcio i Ymwelwyr

Defnyddio stydiau dur i wneud cyplau to ar gyfer Neuadd Breswyl C.

18 Medi 2014​—Safle Warwick

Golygfa o’r tir cyfagos i’r de, yn edrych tua’r gogledd tuag at Lyn Sterling Forest (Blue Lake). Mae hyd at 13 craen wedi bod yn gweithio ar yr un pryd. Yn y tu blaen gwelir gwaith i dywallt a gorffen y concrit ar gyfer sylfaen Neuadd Breswyl B.

26 Medi 2014​—Swyddfeydd

Trawstiau a cholofnau dur yn barod i’w gosod. Mae fframwaith dur yr adeilad yn caniatáu swyddfeydd mawr cynllun agored, ac yn hwyluso’r gwaith adeiladu.

9 Hydref 2014​—Safle Warwick

Rhoi’r cyplau to at ei gilydd, a’u gorchuddio â haenen fetel a philen ddal dŵr i greu modiwl to cyfan ar gyfer Neuadd Breswyl C. Yn y cefndir i’r chwith, mae modiwl hanner to yn cael ei adeiladu.

15 Hydref 2014​—Swyddfeydd

Contractwyr yn gosod trawstiau dur ger cornel dde-orllewinol yr adeilad. Ymhlith yr adrannau yn y rhan hon o’r adeilad bydd cegin, ffreutur, a golchdy.

15 Hydref 2014​—Safle Warwick

Ymestyn brwsh i ddyn sy’n gwneud gwaith ar y system carthffosiaeth.

20 Hydref 2014​—Safle Warwick

Codwyd y wal hon er mwyn penderfynu ar steil a lliw y morter, a dull clymu’r brics. Defnyddiwyd hefyd fel esiampl i’r bricwyr newydd. Yma gwelir y wal yn cael ei thynnu i lawr, wedi ateb ei diben.

31 Hydref 2014​—Neuadd Breswyl C

Craen yn gosod modiwl hanner to. Mae’r toeau ar ongl ar bob pen i’r Neuaddau Preswyl yn gwneud iddyn nhw edrych yn fwy deniadol.

7 Tachwedd 2014​—Adeilad Cynnal a Chadw/Parcio i Breswylwyr

Gollwng tanc olew 95,000 litr (21,000 galwyn) i’w le. Mae’r olew yn y tanciau hyn yn mynd i’r boeleri.

12 Tachwedd 2014​—Neuadd Breswyl C

Golygfa o wyneb deheuol yr adeilad, gyda Blue Lake ar ochr dde’r llun. Mae defnyddio gwahanol liwiau a wynebau ar y tu allan yn gwneud i’r adeilad edrych yn fwy deniadol.

21 Tachwedd 2014​—Adeilad Cynnal a Chadw/Parcio i Breswylwyr

Tîm gŵr a gwraig yn gosod dreiniau cyn i’r llawr concrit gael ei dywallt.

28 Tachwedd 2014​—Swyddfeydd

Clirio’r eira oddi ar y to.

1 Rhagfyr 2014​—Adeilad Cynnal a Chadw/Parcio i Breswylwyr

Tîm gŵr a gwraig yn bwrw golwg dros y cynlluniau ar gyfer y plymwaith.

10 Rhagfyr 2014​—Adeilad Cynnal a Chadw/Parcio i Breswylwyr

Cloddio, gosod paneli concrit, a thywallt concrit ar ddiwrnod o eira. Ar gornel chwith uchaf y llun, gwelir rhannau o’r adeilad wedi eu gorchuddio â llenni plastig cryf. Oherwydd bod rhai tasgau yn gofyn am dymheredd sefydlog, roedd hyn yn caniatáu i’r gwaith o dywallt y lloriau concrit a diogelu’r adeilad rhag tân barhau drwy’r gaeaf.

12 Rhagfyr 2014​—Neuadd Breswyl D

Rhoi pilen atal lleithder ar y colofnau concrit ac ar ymylon y lloriau cyn gosod paneli allanol y waliau.

15 Rhagfyr 2014​—Safle Warwick

Llun o’r awyr yn edrych tua’r gorllewin. Gwelir y neuaddau preswyl ar ben y llun. Defnyddir yr adeilad mawr gwyn ger canol y llun ar gyfer swyddfeydd. Codir adeiladau ar lai nag 20 y cant o’r 100 hectar (253 erw), heb amharu o gwbl ar y goedwig ar weddill y safle.

15 Rhagfyr 2014​—Safle Warwick

Llun o’r awyr yn edrych tua’r dwyrain. Gwelir neuaddau preswyl C a D ar waelod y llun. Ar Neuadd Breswyl C, mae contractwyr yn gosod paneli metel i orffen y to.

25 Rhagfyr 2014​—Neuadd Breswyl C

Saer yn gosod llawr laminedig mewn ystafell enghreifftiol. Bydd dewis o bedwar pecyn addurno ar gyfer yr ystafelloedd preswyl. Bydd hyn yn cynnwys lliw y paent, carpedi, lloriau laminedig, teils, ac arwynebau gweithio.

31 Rhagfyr 2014​—Swyddfeydd

Gorffen y llawr concrit â llaw er mwyn sicrhau bod gogwydd y dreiniau yn gywir.

31 Rhagfyr 2014​—Neuadd Breswyl C

Technegydd 77 oed yn gosod cebl ffibr optig. Erbyn diwedd y prosiect, bydd tua 32 cilomedr (20 milltir) o’r ceblau hyn wedi eu gosod yn y ganolfan.