Neidio i'r cynnwys

Gwireddu ei Freuddwyd

Gwireddu ei Freuddwyd

Bob blwyddyn, mae miloedd ar filoedd o bobl yn ymweld â phencadlys Tystion Jehofa a swyddfeydd cangen yr Unol Daleithiau yn Nhalaith Efrog Newydd. Yr enw ar yr adeiladau hyn yw ‘Bethel,’ sy’n air Hebraeg sy’n golygu “Tŷ Dduw.” Mae ymwelwyr yn teithio o bob man er mwyn gweld y cyhoeddiadau yn cael eu hargraffu, i ddysgu sut mae gwaith y Tystion yn cael ei drefnu, ac i ymweld â ffrindiau sy’n gwasanaethu yno. Gwireddu breuddwyd oedd un dyn penderfynol a aeth yno yn ddiweddar.

Un o Dystion Jehofa o Anchorage, Alasga, U.D.A. yw Marcellus. Dim ond ychydig o eiriau sydd ganddo oherwydd iddo gael strôc rai blynyddoedd yn ôl. a Mae Marcellus yn defnyddio cadair olwyn, ac mae angen cymorth arno’n ddyddiol. Serch hynny, ei freuddwyd oedd ymweld â Bethel. Yn ddiweddar, daeth ei freuddwyd yn wir.

“Roedd yn hollol benderfynol,” meddai Corey, ffrind a helpodd Marcellus i gynllunio’i daith. “Byddai yn fy ffonio yn rheolaidd i weld sut oedd y cynlluniau’n dod ymlaen. Gan nad yw Marcellus yn gallu dweud llawer mwy nag ‘ie’ a ‘na,’ roedd rhaid imi ofyn sawl cwestiwn.” Roedd y sgyrsiau yn mynd rywbeth fel hyn:

“Wyt ti angen imi ddod drosodd?”

“Na.”

“Wyt ti angen imi alw’r meddyg?”

“Na.”

“Ffonio i holi am dy daith i Fethel wyt ti?”

“Ie.”

“Wedyn roedd rhaid imi egluro sut roedd y cynlluniau’n dod ymlaen. Roeddwn i’n hapus iawn i’w weld yn cyrraedd ei nod.”

Fe wnaeth Marcellus oresgyn nifer o broblemau i fynd ar ei daith. Gan fod ei incwm yn isel, a’r siwrnai i Efrog Newydd yn fwy na 3,400 o filltiroedd, roedd rhaid iddo gynilo am ddwy flynedd i dalu am y daith. Oherwydd cyflwr ei iechyd, roedd rhaid iddo gael rhywun dibynadwy i deithio gydag ef. Hefyd, roedd angen caniatâd y meddyg, ac fe gafodd hynny ychydig o ddyddiau cyn iddo hedfan.

Pan gyrhaeddodd Marcellus Efrog Newydd, fe aeth ar deithiau o gwmpas y safleoedd yn Brooklyn, Patterson, a Wallkill. Fe welodd lyfrau a Beiblau yn cael eu hargraffu ar beiriannau anferth, a dysgodd lawer am y ffordd mae ein gwaith yn cael ei threfnu. Hefyd fe welodd yr arddangosfeydd “Y Beibl a’r Enw Dwyfol” a “Pobl yn Dwyn Enw Jehofa.” Ar hyd y ffordd, gwnaeth lawer o ffrindiau newydd. Yn wir, cyfle a ddaeth unwaith mewn bywyd oedd y daith hon!

Mae llawer yn dweud nad oes geiriau ganddyn nhw i ddisgrifio ymweliad â Bethel. Ond, pan ofynnwyd i Marcellus a oedd ei daith i Fethel yn werth yr ymdrech, fe atebodd yr unig ffordd y gallai: “Oedd. Oedd. Oedd!”

Gall taith i Fethel fod yn brofiad calonogol iawn i chi a’ch teulu, fel yr oedd i Marcellus. Mae croeso cynnes i bobl ymweld â’n canghennau ym mhob gwlad. Pam na ddewch chi i’n gweld ni?

a Bu farw Marcellus ar 19 Mai 2014, wrth i’r erthygl hon gael ei chwblhau.