Llwyddo i Symud o Fewn 60 Diwrnod
Ar ddydd Gwener, 5 Gorffennaf 2013, clywodd y teulu Bethel yn yr Unol Daleithiau newyddion cyffrous. Cyhoeddodd Anthony Morris o’r Corff Llywodraethol: “Mae cytundeb wedi ei wneud i werthu chwech o’n hadeiladau, sef 117 Adams Street a 90 Sands Street yn Brooklyn. a Bydd yn rhaid inni symud allan o Adeiladau 1 i 5 erbyn canol mis Awst eleni.”
Roedd hi’n glir mai tasg anferth oedd hon. Mae’r lloriau yn y pum adeilad hyn yn cyfateb i 11 cae pêl droed o safon ryngwladol! Ac roedd rhaid symud allan o’r adeiladau o fewn 60 diwrnod!
Roedd Adeiladau 1 i 5 wedi eu defnyddio ers degawdau ar gyfer rhwymo llyfrau ac argraffu, ond yn 2004 symudwyd y peiriannau i gyd i ngartref newydd yn Wallkill, Efrog Newydd.
Ers hynny, defnyddiwyd yr adeiladau ar gyfer stordai a gwaith cynnal a chadw. Roedden nhw’n llawn deunydd adeiladu, dodrefn swyddfa, ac offer a ddefnyddir mewn prosiectau adeiladu yn yr Unol Daleithiau a thramor.
Er mwyn symud allan o’r adeiladau mewn pryd, roedd angen cynllunio’n fanwl. Yn gyntaf roedd yn rhaid gwneud rhestr o bob dim yn yr adeiladau a phenderfynu naill ai ei werthu, ei daflu neu ei gadw. Wedyn gwnaethpwyd cynlluniau i sicrhau fod popeth yn digwydd yn hwylus ac yn ddiogel.
Gweithiodd pawb yn y teulu Bethel yn galed i wneud eu rhan. Ar ben hynny, gwahoddwyd 41 o wirfoddolwyr dros dro o bob rhan o’r Unol Daleithiau i helpu gyda’r prosiect. Roedd y rhan fwyaf yn ddynion ifanc, sengl, a chryf. Daethon nhw am gyfnodau o rhwng chwech a deg wythnos, gan adael eu teuluoedd, eu ffrindiau, a’u swyddi er mwyn gweithio ym Methel. Sut roedden nhw’n teimlo am yr aseiniad?
Dywedodd Jordan, sy’n 21 mlwydd oed o Dalaith Washington: “Dw i’n difaru nad oeddwn i wedi gwirfoddoli’n gynt.”
Daeth Steven, 20, o Texas. Dywedodd ef: “Dw i’n teimlo mod i’n rhan o deulu mawr, hapus, sy’n gweithio’n galed trwy’r byd.”
Ysgrifennodd Justin, 23: “Dw i’n teimlo mor gartrefol yma ym Methel. Mae yna gymaint o brofiad ysbrydol, cariad, a chyfeillgarwch yma. Mae’n wych.”
Meddai Adler, 20, o Puerto Rico: “Mae wedi bod yn anodd codi’n gynnar bob bore, ond dw i wedi cyfarfod pobl fydd yn ffrindiau am byth.”
Dywedodd William, sydd yn 21 mlwydd oed: “Mae dod i Fethel wedi bod yn freuddwyd i mi ers imi fod yn blentyn. Ro’n i’n disgwyl teimlo ar goll ac yn unig, ond ro’n i’n hollol anghywir. Dyma brofiad gorau fy mywyd! Does nunlle gwell y gallwn fod.”
Felly, a lwyddodd y gwirfoddolwyr i wneud popeth mewn pryd? Do—a hynny o fewn 55 diwrnod!
a Byddwn yn symud allan o’r adeilad preswyl yn 90 Sands Street rywbryd yn 2017.