Llyfrgell yn Eich Llaw
Ar 7 Hydref 2013, cyhoeddodd Tystion Jehofa fod ap newydd ar gael ar gyfer dyfeisiau symudol. Enw’r ap, ar gyfer darllen ac astudio’r Beibl, yw JW Library. Mae’r ap newydd hwn yn cynnwys chwe chyfieithiad Saesneg o’r Beibl, gan gynnwys Beibl y Brenin Iago, ac adolygiad 2013 o’r New World Translation of the Holy Scriptures. a
Ap Newydd—Pam?
Mae miliynau o bobl yn defnyddio ffonau clyfar, tabledi a phethau tebyg er mwyn gweithio a chyfathrebu. Gan fod adnoddau ar gyfer darllen ac astudio’r Beibl eisoes ar gael ar jw.org, pam roedd angen JW Library?
Yn gyntaf, ar ôl gosod yr ap, nid oes angen cysylltiad â’r We i’w ddefnyddio. Yn ail, cafodd yr ap ei gynllunio fel y gallwch ddod o hyd i adnodau yn hawdd ac astudio’r Beibl yn fanylach. Sut felly?
JW Library—Yn Gymorth i Astudio’r Beibl
Wrth agor JW Library am y tro cyntaf, fe welwch chi restr o lyfrau’r Beibl. Pan ddewiswch lyfr, bydd rhestr o’r penodau yn y llyfr hwnnw’n ymddangos. O fewn eiliadau gallwch gael hyd i adnod neu adnodau penodol. Nodweddion eraill ar yr ap sy’n hwyluso astudio’r Beibl yw:
Troednodiadau sy’n dangos darlleniadau eraill a gwybodaeth ychwanegol
Croesgyfeiriadau at adnodau perthnasol
Blwch chwilio i ddod o hyd i bob enghraifft o air neu ymadrodd
Braslun o gynnwys pob llyfr yn y Beibl
Tabl sy’n dangos ysgrifenwyr llyfrau’r Beibl, pryd a lle yr ysgrifennwyd y llyfrau, a’r cyfnod dan sylw ym mhob un
Mapiau, siartiau, llinellau amser, a diagramau mewn lliw
Fel pob un o gyhoeddiadau Tystion Jehofa, mae JW Library ar gael am ddim. Mae’r ap hwn, sydd eisoes wedi ei lawrlwytho fwy na miliwn o weithiau, wedi’i ariannu yn gyfan gwbl gan roddion gwirfoddol. (2 Corinthiaid 9:7) Pam na wnewch chi roi cynnig arno a gweld manteision cael llyfrgell yn eich llaw?
a Ym mis Ionawr 2014, cafodd yr ap ei ddiweddaru. Mae bellach yn cynnwys Testun y Dydd a llyfr canu Tystion Jehofa.