Neidio i'r cynnwys

Argraffu ym Mhob Cwr o’r Byd​—Helpu Pobl i Ddysgu am Dduw

Argraffu ym Mhob Cwr o’r Byd​—Helpu Pobl i Ddysgu am Dduw

Mae pobl trwy’r byd i gyd yn darllen cyhoeddiadau Tystion Jehofa. Mae miliynau yn eu darllen ar ffurf electronig, fel rydych chi yn ei wneud nawr. Ond efallai byddwch yn synnu o wybod pa mor helaeth yw ein gwaith argraffu. Erbyn 2013, roedden ni’n argraffu cyhoeddiadau am y Beibl mewn tua 700 o ieithoedd a’u dosbarthu mewn 239 o wledydd.

Hyd at 1920, cwmnïau masnachol oedd yn gwneud ein gwaith argraffu i gyd. Ond y flwyddyn honno, dechreuon ninnau argraffu rhai o’n cylchgronau a llyfrynnau mewn adeilad wedi’i rentu yn Brooklyn, Efrog Newydd. O’r pethau bychain hynny, datblygodd y gwaith ac rydyn ni bellach yn argraffu mewn 15 o’n canghennau drwy’r byd, yn Affrica, Asia, Awstralia, Ewrop, Gogledd America, a De America.

Y Llyfr Pwysicaf Oll

Y llyfr pwysicaf rydyn ni’n ei argraffu, wrth gwrs, yw’r Beibl. Ym 1942, fe wnaethon ni argraffu Beibl y Brenin Iago yn Saesneg. Hwnnw oedd y Beibl cyfan cyntaf inni ei argraffu. Er 1961, mae Tystion Jehofa wedi cyfieithu a chyhoeddi’r New World Translation of the Holy Scriptures mewn un gyfrol. Erbyn 2013, roedden ni wedi argraffu mwy na 184 miliwn copi o’r Beibl hwnnw mewn 121 o ieithoedd.

Ond nid yw ffigurau argraffu yn adrodd y stori gyfan. Mae’r Beiblau rydyn ni’n eu hargraffu yn para’n hir. Maen nhw wedi eu hargraffu ar bapur di-asid nad yw’n melynu, ac mae’r tudalennau wedi eu rhwymo’n gadarn. O ganlyniad ceir Beiblau sy’n ddigon cryf i’w defnyddio bob dydd.

Cyhoeddiadau Eraill

Rydyn ni hefyd yn argraffu cyhoeddiadau sy’n helpu pobl i ddeall y Beibl. Ystyriwch rai o’r ffigurau o 2013:

  • Y Tŵr Gwylio: Argreffir ein prif gylchgrawn mewn 210 o ieithoedd. Gyda rhyw 45 miliwn copi o bob rhifyn, hwn yw’r cylchgrawn sydd â’r cylchrediad ehangaf iddo yn y byd.

  • Awake!: Yn gymar i’r Tŵr Gwylio, ac yn ail iddo o ran cylchrediad, mae Awake! yn cael ei argraffu mewn 99 o ieithoedd. Argreffir tua 44 miliwn copi o bob rhifyn.

  • Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?: Dyma lyfr clawr meddal gyda 224 o dudalennau, wedi ei ysgrifennu’n arbennig i helpu pobl i ddeall dysgeidiaeth sylfaenol y Beibl. Er 2005, mae mwy na 214 miliwn copi wedi eu hargraffu mewn mwy na 240 o ieithoedd.

  • Gwrando ar Dduw: Llyfryn 32 dudalen yw hwn i helpu pobl nad ydyn nhw’n darllen yn dda. Mae’n cyflwyno neges y Beibl trwy luniau deniadol gyda sylwadau cryno. Mae dros 42 miliwn copi wedi eu hargraffu mewn mwy na 400 o ieithoedd.

Yn ogystal â’r cyhoeddiadau uchod, mae Tystion Jehofa yn argraffu amrywiaeth o lyfrau, llyfrynnau, a thaflenni. Eu pwrpas yw helpu pobl i gael atebion i’w cwestiynau am y Beibl, i ymdopi â phroblemau bywyd, ac i fagu teulu hapus. Yn 2012 argraffodd Tystion Jehofa fwy na 1.3 biliwn o gylchgronau ac 80 miliwn o lyfrau a Beiblau.

Yn 2012 argraffodd Tystion Jehofa fwy na 1.3 biliwn o gylchgronau ac 80 miliwn o lyfrau a Beiblau.

Yn aml bydd ymwelwyr i’r argraffdai yn rhyfeddu o weld pobl yn gweithio mor ddiwyd i gynhyrchu’r cyhoeddiadau hyn. Gwirfoddolwyr yw pob un o’r dynion a’r merched sy’n gweithio ynddyn nhw. Nid yw’r rhan fwyaf sy’n dod i Fethel, sy’n golygu “Tŷ Dduw,” erioed wedi gweithio yn y maes argraffu o’r blaen. Sut bynnag, mae rhaglen hyfforddi ac awyrgylch sy’n annog hyfforddiant yn talu ar ei ganfed. Er enghraifft, peth cyffredin yw gweld dynion ifanc yn eu dau ddegau yn rhedeg gweisg cyflym sy’n medru argraffu 200,000 o gylchgronau yr awr.

O Ble Mae’r Arian yn Dod?

Rhoddion gwirfoddol sy’n cefnogi gwaith Tystion Jehofa drwy’r byd i gyd. Dywedodd rhifyn Awst 1879 o Zion’s Watch Tower, a elwir bellach yn Y Tŵr Gwylio: “Credwn mai JEHOFA sydd y tu ôl i ‘Zion’s Watch Tower’ felly ni fyddwn byth yn erfyn nac yn ymbil ar ddynion am gefnogaeth.” Rydyn ni’n dal i deimlo’r un fath.

Pam rydyn ni’n rhoi gymaint o amser, arian, ac egni i’r gwaith hwn? Wel, rydyn ni’n gobeithio y bydd y Beiblau a’r llyfrau hyn, mewn print neu ar ffurf electronig, yn eich helpu chi i glosio at Dduw.