Y Tîm Cyfieithu Sbaeneg yn Symud i Sbaen
Dywedodd Iesu y byddai’r newyddion da yn cael eu pregethu i bobl ym mhob cwr o’r byd. (Mathew 24:14) Er 1909, mae cyhoeddiadau Tystion Jehofa, wedi eu cyfieithu i’r iaith Sbaeneg, gan helpu pobl o gwmpas y byd i glywed y neges am y Deyrnas yn eu mamiaith. Mae mwy o bobl yn siarad Sbaeneg fel iaith gyntaf nag unrhyw iaith arall ar wahân i’r Tsieinëeg. Trwy’r byd mae tua hanner biliwn o bobl yn siarad Sbaeneg.
“Mae Sbaeneg yn iaith ryngwladol sy’n cael ei siarad mewn dwsinau o wledydd a phob un â’i diwylliant ei hun,” meddai William, un o’r cyfieithwyr Sbaeneg. “Ein nod yw cyfieithu mewn ffordd fydd yn cyffwrdd â chalonnau pobl o bob cefndir o ran diwylliant, addysg, a safonau byw.” Er mwyn cyrraedd cynulleidfa eang fel hon, mae aelodau’r tîm cyfieithu yn dod o’r Ariannin, Colombia, El Salfador, Gwatemala, Mecsico, Puerto Rico, yr Unol Daleithiau, Wrwgwái, Feneswela, ac wrth gwrs, Sbaen.
Am ddegawdau, roedd Tystion Jehofa yn cyfieithu i’r iaith Sbaeneg yn yr Unol Daleithiau gyda help cyfieithwyr yn yr Ariannin, Mecsico, a Sbaen. Ond ym 1993, cafodd y tîm cyfieithu ei symud i Puerto Rico, fel bod pawb yn gallu gweithio o’r un lleoliad.
Ym Mawrth 2012, penderfynwyd symud yr Adran Gyfieithu Sbaeneg unwaith eto, ond y tro hwn i swyddfa gangen Tystion Jehofa yn Sbaen. Mae Edward yn cofio, “Nid yn unig roedd rhaid inni symud pobl, eiddo personol, ac offer, ond hefyd roedd angen symud y llyfrgell gyfieithu gyfan.” Mae’r llyfrgell yn cynnwys tua 2,500 o gyfeirlyfrau, a chant a mwy o gyfieithiadau o’r Beibl yn Sbaeneg.
Ar 29 Mai 2013, fe wnaeth aelodau’r Adran Gyfieithu Sbaeneg gyrraedd eu cartref newydd yn Sbaen a chael croeso cynnes gan y teulu Bethel. Mae cyfieithwyr, cyfeirlyfrau, ac offer wedi cael eu symud ar draws y Môr yr Iwerydd, ond diolch i’r cynllunio gofalus a’r gwaith caled, derbyniodd y darllenwyr Sbaeneg eu cyhoeddiadau heb unrhyw oedi o gwbl. “Neges y Deyrnas yw’r peth pwysicaf,” meddai Edward, “a’n dymuniad yw y bydd cymaint o bobl â phosibl yn darllen ein cyhoeddiadau.”