Neidio i'r cynnwys

Mae JW.ORG Bellach Mewn Dros 300 o Ieithoedd!

Mae JW.ORG Bellach Mewn Dros 300 o Ieithoedd!

Os ydych yn clicio ar gwymprestr ieithoedd y dudalen hon, cewch weld rhestr o dros 300 o ieithoedd​—rhywbeth nad ydych yn debyg o’i weld ar unrhyw wefan arall!

Sut mae’r nifer hwnnw yn cymharu â gwefannau poblogaidd eraill? Ystyriwch: Ym mis Gorffennaf 2013, roedd gwefan y Cenhedloedd Unedig ar gael mewn chwe iaith. Roedd modd darllen Europa, gwefan swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, mewn 24 iaith. Roedd Google yn cynnal 71 o ieithoedd, tra bod Wicipedia yn cynnal 287.

Mae’n cymryd oriau maith i gyfieithu gwefan i dros 300 o ieithoedd! Mae llawer o’r gwaith yn cael ei wneud gan gannoedd o Dystion Jehofa dros y byd sydd eisiau clodfori Jehofa. Maen nhw’n cael eu trefnu i weithio mewn timoedd, yn ôl iaith, gan ddefnyddio eu sgiliau i gyfieithu’r testun Saesneg.

Mae gan jw.org lawer o dudalennau o wybodaeth sydd wedi eu cyfieithu i dros 300 o ieithoedd, felly mae cyfanswm y tudalennau yn enfawr—dros 200,000!

Nid yn unig y mae jw.org ar gael yn eang ond mae’n boblogaidd hefyd. Mae hyn yn amlwg wrth edrych ar ganlyniadau ymchwil Alexa, cwmni sy’n dadansoddi traffig byd-eang y We ac yn rhestru eu poblogrwydd. Mae ei gategori “Crefydd ac Ysbrydolrwydd” yn cynnwys rhestr o ryw 87,000 o wefannau, gan gynnwys gwefannau prif grefyddau’r byd yn ogystal â chyhoeddwyr crefyddol a chyfundrefnau tebyg. Ym mis Gorffennaf 2013, roedd jw.org yn ail ar y rhestr honno! Yn gyntaf ar y rhestr oedd gwefan fasnachol sy’n rhoi mynediad ar-lein i amryw gyfieithiad o’r Beibl.

Ym mis Hydref 2013, cafodd jw.org gyfartaledd o dros 890,000 o bobl yn ymweld â’r wefan bob diwrnod. Daliwn ati i wneud gwybodaeth ymarferol o’r Beibl ar gael i bobl ym mhob man.