Beibl Fydd yn Para’n Hir
I Dystion Jehofa, y Beibl yw’r llyfr pwysicaf oll. Maen nhw’n ei astudio’n gyson ac yn ei ddefnyddio i ddysgu eraill am Deyrnas Dduw. (Mathew 24:14) Ond, nid yw Beiblau sy’n cael eu defnyddio bob dydd yn para’n hir. Felly, wrth gyhoeddi adolygiad 2013 o’r New World Translation of the Holy Scriptures, roedd y Tystion yn awyddus i gael Beibl a fyddai’n edrych yn ddeniadol ac yn para.
Byddai’n rhaid i’r Beibl newydd fod yn gryf. Pan aeth rhai o’r Tystion sy’n gweithio yn yr argraffdy yn Wallkill, Efrog Newydd, U.D.A., i drafod y prosiect gyda llywydd cwmni sy’n rhwymo llyfrau, fe ddywedodd ef: “Nid yw’r Beibl rydych chi’n ei geisio’n bod.” Fe ychwanegodd, “Mae’n drist ond mae’n wir, fod Beiblau yn cael eu gwneud i edrych yn dda ar y bwrdd coffi neu ar y silff, ond nid i’w defnyddio bob dydd.”
Doedd rhai argraffiadau cynharach o’r New World Translation ddim yn para’n dda—ar adegau, roedden nhw’n dod yn ddarnau mewn tywydd poeth. Gwnaeth staff yr argraffdy ymchwil i weld pa fath o glawr, glud, a rhwymo oedd eu hangen i greu Beiblau a fyddai’n ddigon cryf i’w defnyddio ym mhob tywydd. Yna, fe wnaethon nhw nifer o Feiblau gwahanol a’u hanfon i’w profi yn y maes, mewn gwledydd o’r Trofannau i Alasga.
Ar ôl chwe mis, cafodd y Beiblau eu gyrru yn ôl. Edrychodd staff yr argraffdai arnyn nhw a’u gwella, cyn anfon swp arall o Feiblau allan i’w harbrofi. Defnyddiwyd 1,697 o Feiblau yn yr arbrofion. Cafodd rhai ohonyn nhw driniaeth arw drwy ddamwain. Er enghraifft, cafodd un Beibl ei adael allan dros nos yn y glaw, a chafodd un arall ei wlychu drwyddo mewn corwynt. Roedd canlyniadau’r arbrofion yn ddefnyddiol, gan eu bod nhw’n dangos beth oedd cryfderau a gwendidau’r llyfr.
Tra bo’r arbrofion yn mynd ymlaen yn 2011, prynodd y Tystion beiriannau newydd ar gyfer eu hargraffdai yn Wallkill ac yn Ebina, Japan er mwyn rhwymo llyfrau’n gyflymach. Y nod oedd nid yn unig i argraffu digon o Feiblau i ateb y galw, ond i wneud hynny mewn dau leoliad gwahanol, gan sicrhau bod y Beiblau i gyd yn edrych yn union yr un fath.
Problemau Gyda’r Clawr yn Troi a Chrychu
Yn gynnar yn 2012, dechreuodd y ddau argraffdy gynhyrchu’r New World Translation blaenorol gyda chloriau newydd mewn du a browngoch. Ond, roedd y peiriannau newydd yn defnyddio glud a leinin oedd heb eu harbrofi, ac roedd y cloriau yn crychu. Methu oedd hanes yr ymdrechion cynnar i ddatrys y broblem, felly daeth y gwaith i ben am gyfnod.
Dywedodd cwmni sy’n gwneud un o’r deunyddiau fod y broblem yn adnabyddus gyda chlawr hyblyg, a’i bod yn anodd ei datrys. Ond, yn hytrach na newid i glawr caled, roedd y Tystion yn benderfynol o gyhoeddi Beibl gyda chlawr a oedd yn edrych yn dda ac a oedd hefyd yn hyblyg. Ar ôl pedwar mis o arbrofi gyda gwahanol fathau o leinin a glud, daethon nhw o hyd i gyfuniad a oedd yn caniatáu i’r argraffu ailddechrau. Llwyddon nhw i gynhyrchu Beibl â chlawr hyblyg oedd yn aros yn wastad ac yn daclus.
Argraffu yn Stopio am yr Ail Dro
Ym mis Medi 2012, cafodd yr argraffdai gyfarwyddyd i roi’r gorau i gynhyrchu’r argraffiad blaenorol, i ddefnyddio’r stoc, ac i aros am argraffiad newydd o’r New World Translation. Trefnwyd i gyhoeddi’r argraffiad newydd ar 5 Hydref 2013 yng nghyfarfod blynyddol y Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania.
Derbyniodd yr argraffdai ffeiliau electronig o’r Beibl newydd ddydd Gwener, 9 Awst 2013. Y diwrnod wedyn, dechreuodd y gwaith argraffu. Cynhyrchwyd y copi cyntaf o’r Beibl ar 15 Awst. Gweithiodd staff Wallkill ac Ebina ddydd a nos am saith wythnos er mwyn argraffu 1,600,000 o Feiblau, sef digon ar gyfer pob unigolyn a oedd yn bresennol yn y cyfarfod blynyddol.
Mae’r Beibl newydd yn edrych yn wych ac mae wedi ei wneud i bara. Ond mae’r neges sydd ynddo yn fwy gwerthfawr byth! Y diwrnod ar ôl derbyn copi newydd o’r Beibl, ysgrifennodd dynes o’r Unol Daleithiau, “Oherwydd yr argraffiad newydd, gallaf ddeall y Beibl yn well.”