Y Corff Llywodraethol yn Calonogi’r Tystion yn Rwsia ac Wcráin
“Roedden ni’n teimlo fel petai cariad yn cael ei bentyrru arnon ni!” Dyna oedd ymateb un ddynes o Wcráin a oedd yn gwrando ar lythyr pwysig yn cael ei ddarllen gan Stephen Lett o Gorff Llywodraethol Tystion Jehofa. Roedd hi’n un o’r 165,000 o Dystion a oedd yn gwrando ar y Brawd Lett yn ystod ei ymweliad â’r wlad dros benwythnos 10 ac 11 Mai 2014.
Cafodd anerchiadau yn seiliedig ar y Beibl a llythyr gan y Corff Llywodraethol eu cyfieithu i bum iaith ac yna eu darlledu i tua 1,100 o Neuaddau’r Deyrnas drwy Wcráin.
Ar yr un penwythnos, darllenodd Mark Sanderson, sydd yntau’n aelod o’r Corff Llywodraethol, yr un llythyr fel rhan o raglen a gyflwynwyd i’n brodyr ar draws Rwsia. Cyfieithwyd y rhaglen honno i 14 o ieithoedd, ac roedd 180,413 o Dystion mewn mwy na 2,500 o gynulleidfaoedd yn Belarws a Rwsia yn gwylio hefyd.
Roedd y llythyr, a ddaeth o’r Corff Llywodraethol, wedi ei gyfeirio at bob cynulleidfa yn Rwsia ac Wcráin. Darllenodd y Brawd Sanderson y llythyr yn Rwseg, ac ysgogodd hyn i swyddfa gangen Rwsia ysgrifennu: “Roedd y brodyr a’r chwiorydd yn hynod o ddiolchgar bod y Corff Llywodraethol â chymaint o ddiddordeb yn y rhan hon o’r maes byd-eang. Roedd pawb yn teimlo bod y Corff Llywodraethol wedi gwir ddangos eu cariad tuag aton ni.”
Nod y llythyr oedd cysuro a chryfhau’r Tystion yn yr ardal lle roedd ansefydlogrwydd gwleidyddol. Roedd yn annog y brodyr i barhau i beidio â bod yn rhan o’r byd drwy aros yn niwtral o ran materion gwleidyddol.—Ioan 17:16.
I’r perwyl hwnnw, anogodd y Corff Llywodraethol i’r Tystion gadw perthynas glòs gyda Jehofa drwy weddïo, astudio, a myfyrio ar Air Duw. Cafodd y gynulleidfa ei hatgoffa, er gwaethaf unrhyw dreialon y bydden nhw’n eu hwynebu, gallan nhw fod yn hyderus y bydd Jehofa yn cyflawni’r addewid dwyfol yn Eseia 54:17: “Ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn.”
Roedd geiriau olaf y llythyr yn darllen: “Rydyn ni’n eich caru yn fawr iawn. Gallwch fod yn sicr rydyn ni’n eich cadw chi yn ein meddyliau ac ein bod yn deisyf ar Jehofa drosoch chi.”
Dyma sylwadau swyddfa gangen Tystion Jehofa yn Wcráin am yr ymweliadau: “Doedd y brodyr ddim yn disgwyl gymaint o ofal a sylw gan y Corff Llywodraethol. Roedd cael y Brodyr Lett a Sanderson yn Wcráin a Rwsia ar yr un penwythnos yn dystiolaeth glir bod pobl Duw yn gytûn ac roedd yn dangos i’r brodyr gymaint mae Jehofa a Iesu yn gofalu amdanyn nhw. Roedd pawb ohonon ni yn cytuno mai dyna oedd yr amser gorau ar gyfer ymweliad, ac rydyn ni wedi cael ein cryfhau i ddal ati i wasanaethu Jehofa er gwaethaf unrhyw anawsterau a all godi.”