Neidio i'r cynnwys

Cariad yn Uno Pawb​—Cynhadledd yn Frankfurt, yr Almaen

Cariad yn Uno Pawb​—Cynhadledd yn Frankfurt, yr Almaen

“Yn Debyg Iawn i Ddathliad Teuluol” oedd pennawd y papur newydd Frankfurter Rundschau. A chytunodd y rhai a oedd yn bresennol.

“Mi ges i groeso cynnes iawn!” meddai Karla, a ddaeth o Puerto Rico.

A dywedodd Sara, o Awstralia, “Roedd fel petaswn i’n mynd i weld fy nheulu fy hun, ond eu bod nhw ar ochr arall y byd.”

Beth oedd achos y fath deimladau cynnes? Cynhadledd ryngwladol Tystion Jehofa a gynhaliwyd yn y Commerzbank-Arena yn Frankfurt am Main, yr Almaen, o 18 hyd 20 Gorffennaf 2014. Roedd bron i 37,000 o bobl yn bresennol.

Aeth y cynadleddwyr yno er mwyn dysgu am y Beibl. Roedd y rhaglen yn cynnwys darlleniadau o’r Beibl, caneuon, gweddïau, dwy ddrama, a darlithoedd bywiol am bynciau Beiblaidd.

Roedd y rhan fwyaf o’r rhai a oedd yn bresennol yn Dystion lleol, ynghyd â thros 3,000 o Dystion yn dod o Awstralia, Prydain, Gwlad Groeg, Libanus, Serbia, De Affrica, a’r Unol Daleithiau. Hefyd, o 70 o wahanol wledydd, daeth 234 o Dystion sy’n gwasanaethu mewn meysydd arbennig.

Cafodd rhan o’r rhaglen ei darlledu dros y We i 19 o lefydd eraill yn yr Almaen, ynghyd â lleoliadau yn Awstria a’r Swistir. Cyfanswm y rhai a ddaeth i’r gynhadledd oedd 204,046.

Chwalu Ffiniau

Yn Frankfurt, cafodd y rhaglen ei chyflwyno yn Almaeneg, Groeg, a Saesneg. Mewn lleoliadau eraill, cafodd y rhaglen ei chyfieithu ar y pryd i 17 o ieithoedd, gan gynnwys Arabeg, Tamil, Tsieineeg, Twrceg, a dwy fath o iaith arwyddion.

Er bod y Tystion yn dod o wahanol wledydd, gyda ieithoedd a gwahanol ddiwylliannau, roedd cariad yn uno pawb. (Ioan 13:34, 35) Roedden nhw’n trin ac yn gweld ei gilydd fel brodyr a chwiorydd.

“Gwelon ni â’n llygaid ein hunain fod ein brawdoliaeth ryngwladol yn mynd y tu hwnt i ffiniau gwledydd ac ieithoedd,” meddai Tobias o Brydain.

“Mi wnes i gwrdd â Thystion a oedd yn dod o dros 20 o wledydd. Rydyn ni wedi cael ein huno oherwydd y cariad sydd gennyn ni tuag at ein gilydd a thuag at Dduw,” meddai Davianna, a ddaeth o Buerto Rico.

“Mi ddes i’n un o Dystion Jehofa mewn tref fechan yng nghefn gwlad Awstralia,” meddai Malcom. “Roeddwn wedi darllen am ein brawdoliaeth fyd-eang, a gweld clipiau fideo amdani. Ond, o fod yma a’i gweld â’m llygaid fy hun, mae’n gymaint mwy nag yr oeddwn i yn ei ddisgwyl. Mae bod yn bresennol wedi cryfhau fy ffydd yn fawr iawn.”

Lletygarwch Bythgofiadwy

Paratowyd anrhegion ac adloniant i’r cynadleddwyr gan Dystion o 58 cynulleidfa yn Frankfurt a’r cyffiniau.

“Cawson ni groeso cynnes, cyfeillgar a chariadus,” meddai Cynthia, a ddaeth o’r Unol Daleithiau. “Fydda’ i byth yn anghofio dyfnder cariad, cyfeillgarwch, a haelioni’r brodyr.”

“Roedd y cariad, a’r chwerthin, a’r agosatrwydd yn anhygoel. Gallwn ddysgu gymaint oddi wrth ein gilydd,” dywedodd Simon, sy’n byw yn yr Almaen.

“Roedd yr adloniant yn y prynhawn yn profi i mi nad ydyn ni, fel Tystion Jehofa, yn byw bywyd sych-dduwiol a diflas. Rydyn ni’n gwybod sut i gael hwyl, a hynny’n ddifyrrwch glân a pharchus,” meddai Amy, a ddaeth o Awstralia.

Mynd ag Atgofion Melys Adref

Dim ond un gynhadledd mewn cyfres o gynadleddau rhyngwladol a gynhaliwyd mewn naw gwlad dros y byd oedd yr un yn Frankfurt.

Ar ôl i rywun ofyn iddo sut deimlad oedd mynd i’r gynhadledd yn Frankfurt, dyma un dyn yn dweud: “Dychmygwch eich bod yn dod ar draws perthynas ichi, eich brawd er enghraifft, brawd nad oeddech yn gwybod dim amdano. Yn syth ar ôl ei gyfarfod, mae’n agor ei galon a’i gartref ichi. Mae’r hapusrwydd y tu hwnt i bob disgwyl. Lluosogwch hynny 37,000 o weithiau. Dyna sut deimlad oedd bod yno.”