Cyrraedd Cymunedau Brodorol Canada
Mae dros 60 o ieithoedd brodorol cynhenid yn cael eu siarad yng Nghanada, gyda rhyw 213,000 o Ganadiaid yn honni bod un o’r ieithoedd hyn yn famiaith iddyn nhw.
Felly, er mwyn cyffwrdd calonnau’r bobl frodorol, mae llawer o Dystion Jehofa wedi dysgu un o’r ieithoedd hyn. Erbyn diwedd 2015 roedd dros 250 o unigolion wedi cwblhau dosbarth iaith frodorol a oedd wedi’i drefnu gan y Tystion.
Hefyd, mae Tystion Jehofa wedi cyfieithu cyhoeddiadau Beiblaidd, yn cynnwys fideos byrion, i wyth o ieithoedd brodorol Canada: Algoncwin, Sicsicá (iaith y Traed Duon), Cri Gwernydd y Gorllewin, Inwctitwt, Mohoceg, Odawa, ac Ojibweg y Gogledd. a
Mae’r rhai sy’n dysgu iaith frodorol gynhenid yn cyfaddef y gall fod yn dipyn o her. Dywed Carma: “Pan ddechreuais i helpu’r tîm cyfieithu Sicsicá, roeddwn yn teimlo fel fy mod yn gweithio gyda mwgwd dros fy wyneb. Doedd gen i ddim llawer o afael ar yr iaith. Doeddwn i ddim yn medru darllen yr iaith nac yn adnabod gwahanol synau’r iaith chwaith.”
“Mae llawer o’r geiriau yn hir ac yn anodd eu hynganu,” meddai Terence, sy’n gweithio gyda’r tîm cyfieithu Cri Gwernydd y Gorllewin. Mae Daniel, sy’n weinidog llawn amser ar Ynys Manitoulin, yn Ontario, yn dweud: “Mae adnoddau’n brin. Y ffordd orau i ddysgu Odawa yw cael hyd i nain neu daid yn y gymuned i dy ddysgu di.”
Ydy’r gwaith caled yn werth yr ymdrech? Dywedodd un fenyw o lwyth yr Ojibwa bod ymdrechion Tystion Jehofa yn eu gwneud nhw’n wahanol i grefyddau eraill. Meddai hi, roedd y ffaith bod y Tystion yn mynd i gartrefi’r bobl ac yn darllen adnodau yn Ojibwa, yn helpu’r bobl teimlo’n fwy cyfforddus wrth drafod y Beibl.
Mae Bert, cyfieithydd a fagwyd ar warchodfa Llwyth y Gwaed yn Alberta, yn gwneud y sylw hwn: “Dw i wedi gweld nifer o bobl o lwyth y Traed Duon yn dal cyhoeddiad yn dynn i’w calonnau a dweud, ‘Dyma’n iaith i. I mi mae hwn!’ yn bur aml byddaf yn gweld dagrau yn cronni yn eu llygaid wrth iddyn nhw wylio fideo yn eu mamiaith.”
Gwerthfawrogodd un fenyw o lwyth y Cri y fideo Pam Astudio’r Beibl? yn ei hiaith frodorol. Roedd hi wrth ei bodd, ac yn dweud ei fod fel clywed llais ei mam yn siarad â hi.
Mynd yr Ail Filltir
Mae llawer o Dystion wedi gwneud ymdrech lew i rannu neges gysurlon o’r Beibl gyda chymunedau brodorol. Mae Terence a’i wraig, Orlean, yn dwyn i gof un daith genhadu o’r fath. Medden nhw: “Roedden ni’n rhan o gonfoi a yrrodd am 12 awr ar lonydd o iâ i dystiolaethu ar warchodfa o’r enw Little Grand Rapids. Roedd yr ymateb yn anhygoel!”
Mae eraill wedi symud o’u cartrefi i fyw yn nes at y cymunedau hyn. Wedi mwynhau ymgyrch genhadu a barodd tri mis ar Ynys Manitoulin, penderfynodd Daniel a’i wraig LeeAnn i symud yno. “Rydyn ni’n gwerthfawrogi cael mwy o amser i godi pontydd a meithrin y diddordeb.” meddai Daniel.
“Am Fy Mod i’n Wirioneddol yn eu Caru.”
Pam mae Tystion Jehofa yn gwneud cymaint o ymdrech i gyrraedd brodorion cynhenid? Mae gwraig Bert, Rose, yn esbonio: “A minnau’n un o’r brodorion, gallaf siarad o brofiad. Mae rhoi egwyddorion y Beibl ar waith wedi fy helpu i ac mae hyn yn fy ysgogi i i helpu eraill.”
“Dw i’n awyddus i bobl y Cri gael y cyfle i gael eu harwain gan y Creawdwr,” meddai Orlean. “Mae hi’n fraint fawr cael eu helpu nhw i glosio at Jehofa a goresgyn heriau bywyd heddiw.”
Mae Marc yn gweithio gyda’r tîm cyfieithu Sicsicá (iaith y Traed Duon). Beth sy’n ei gymell i estyn llaw i’r bobl frodorol yn ei gymuned? Ei ateb: “Am fy mod i’n wirioneddol yn eu caru.”
a Mae rhai o’r ieithoedd hyn yn cael eu defnyddio gan frodorion cynhenid Unol Daleithiau America.