Neidio i'r cynnwys

Ymgyrch Fyd-Eang i Hybu JW.ORG

Ymgyrch Fyd-Eang i Hybu JW.ORG

Ym mis Awst 2014, dosbarthwyd taflen arbennig gan Dystion Jehofa ym mhob gwlad i ennyn diddordeb yn jw.org. O ganlyniad, cododd y nifer o ymweliadau â’r wefan i bron 65 miliwn yn ystod y mis, sy’n gynnydd o fwy nag 20 y cant. Trwy’r wefan, gofynnodd bron i 10,000 o bobl ledled y byd am drefnu i astudio’r Beibl​—67 y cant yn fwy na’r mis blaenorol! Roedd yr ymgyrch yn cynnig help i bobl ym mhob man.

Help ar gyfer pobl sy’n chwilio am atebion i’r cwestiynau mawr

Mewn lifft yng Nghanada, siaradodd Tyst â dynes o’r enw Madeline a dangosodd y daflen Ble Cawn Ni Atebion i’r Cwestiynau Mawr? iddi. Dywedodd Madeline y bu’n gweddïo’n daer ar ei balconi y noson gynt gan ofyn i Dduw am help i gael atebion i’w chwestiynau. Yn y gorffennol, roedd hi wedi cysylltu â sawl eglwys i ofyn am help i astudio’r Beibl, ond ni wnaeth yr un ddod yn ôl ati. Yn fuan iawn dechreuodd astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa.

Help ar gyfer pobl sy’n anghyfarwydd â’r Beibl

Yn Ynysoedd y Philipinau, siaradodd Rowena â dyn o dras Tsieineaidd y tu allan i dŷ bwyta. Rhoddodd daflen iddo gan esbonio fod Tystion Jehofa yn awyddus i helpu pobl i ddeall y Beibl.

Dywedodd y dyn nad oedd erioed wedi gweld y Beibl o’r blaen. O ganlyniad i’r sgwrs, fe aeth i un o gynulliadau Tystion Jehofa. Ar ddiwedd y dydd, dywedodd y byddai’n hoffi gwybod mwy am y Beibl, a’i fod yn bwriadu lawrlwytho copi oddi ar ein gwefan.

Help ar gyfer pobl fyddar

Mae Guillermo yn un o Dystion Jehofa yn Sbaen ac y mae’n fyddar. Un diwrnod, gwelodd Guillermo hen ffrind ysgol o’r enw Jorge, sydd hefyd yn fyddar. Dywedodd Jorge ei fod wedi colli ei fam yn ddiweddar a bod ganddo lawer o gwestiynau. Rhoddodd Guillermo daflen iddo gan egluro sut i ddefnyddio jw.org i gael atebion i lawer o’i gwestiynau yn iaith arwyddion. Hefyd rhoddodd wahoddiad i Jorge i ddod i’r cyfarfod yn Neuadd y Deyrnas. Fe aeth, ac ers hynny nid yw wedi colli’r un cyfarfod er ei fod yn byw ryw 60 cilomedr (37 milltir) i ffwrdd.

Help ar gyfer pobl mewn ardaloedd anghysbell

Yn Yr Ynys Las gwariodd dau gwpl priod swm sylweddol i deithio mewn cwch bach am 6 awr er mwyn cyrraedd pentref sydd â 280 o drigolion. Yno, fe wnaethon nhw bregethu, dosbarthu taflenni, a dangos un o’r fideos ar jw.org yn Esgimöeg yr Ynys Las. Dechreuon nhw astudio’r Beibl gydag un cwpl yn y pentref. Maen nhw’n parhau i astudio ddwywaith yr wythnos ar y ffôn.

Ond nid y Gogledd Pell oedd yr unig le i’r Tystion wneud ymdrech arbennig. Trefnodd Tystion Jehofa yn Nicaragwa i fynd â’r taflenni at bobl sy’n siarad yr iaith Maiangneg yn jyngl y Caribî. Teithion nhw heb stopio mewn hen groc o fws am 20 awr ar hyd ffyrdd llawn tyllau. Yna fe gerddon nhw am 11 awr, a’r mwd at eu fferau mewn mannau, i gyrraedd y pentrefi. Yno, fe wnaethon nhw ddosbarthu taflenni a dangos fideos yn yr iaith Maiangneg, er mawr syndod a llawenydd i’r bobl leol.

Ym Mrasil, rhoddodd Estela daflen i ddyn mewn tref fach yng nghoedwig law yr Amason. Cymerodd y dyn y daflen a’i rhoi yn ei boced, heb ddangos fawr o ddiddordeb. Ar y ffordd adref, torrodd ei gwch i lawr, a’i adael ar yr afon heb allu mynd ymlaen. Tra ei fod yn aros am help, darllenodd y daflen. Edrychodd ar jw.org ar ei ffôn symudol. Darllenodd sawl erthygl a lawrlwythodd nifer o fideos. Ychydig o ddyddiau yn ddiweddarach, gwelodd y dyn ŵr Estela a gofynnodd iddo ddiolch iddi am y daflen. “Gwnaeth yr erthyglau a ddarllenais fy nistewi nes bod help yn cyrraedd,” meddai. “Mae fy mhlant wrth eu boddau gyda’r fideos. Bydda i’n edrych ar jw.org eto.”