Neidio i'r cynnwys

Dod â Neges y Beibl i Bellterau’r Gogledd

Dod â Neges y Beibl i Bellterau’r Gogledd

Yn 2014, rhoddodd Corff Llywodraethol Tystion Jehofa gyfarwyddyd ynglŷn â rhaglen newydd i ddod â neges y Beibl i bellterau Gogledd Ewrop a Gogledd America. (Actau 1:8) O’r dechrau, canolbwyntiodd y rhaglen ar gymunedau detholedig yn Alasga (U.D.A.), Y Lapdir (Y Ffindir), Nwnafwt a Thiriogaethau’r Gogledd-Orllewin (Canada).

Ers degawdau, mae Tystion Jehofa wedi ymweld â’r rhanbarthau anghysbell hyn i bregethu. Arhosodd y Tystion am amser byr yn unig, felly, yn aml roedd eu hymdrechion i rannu llenyddiaeth Feiblaidd yn gyfyngedig.

Yn y drefn newydd hon, mae’r swyddfeydd cangen sy’n goruchwylio gwaith Tystion Jehofa yn y rhanbarthau anghysbell hyn, yn gwahodd gweinidogion llawn amser (arloeswyr) i aros yn y tiriogaethau am o leiaf dri mis. Os yw astudio’r Beibl o ddiddordeb i rai yn y gymuned, gall y gweinidogion aros yn hirach a hyd yn oed drefnu cyfarfodydd cyhoeddus.

Wrth gwrs, mae yna broblemau sy’n unigryw i’r Gogledd. Roedd dau arloeswr wedi’u haseinio i Barrow, yn Alasga. Roedd un yn byw yn Ne Califfornia a’r llall o Georgia, U.D.A. Yn ystod eu gaeaf cyntaf yn Barrow, wynebon nhw dymereddau mor isel â minws 38 gradd Celsius! O fewn y misoedd cyntaf, dyma nhw’n ymweld â 95 y cant o gartrefi’r ddinas, gan gychwyn pedair astudiaeth Feiblaidd, yn gynnwys un astudiaeth gyda dyn ifanc o’r enw John. Mae John a’i gariad yn astudio’r llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? ac mae ef yn rhannu’r hyn y mae’n ei ddysgu gyda’i ffrindiau a’i gyd-weithwyr. Mae hefyd yn darllen testun y dydd o’r Examining the Scriptures Daily gan ddefnyddio’r ap JW Library ar ei ffôn.

Nid oes yr un ffordd i Rankin Inlet yn nhiriogaeth Nwnafwt, Canada. Felly hedfanodd dau arloeswr i’r pentref bach hwnnw a chychwyn llawer o astudiaethau Beiblaidd. Ar ôl gwylio’r fideo Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas? gofynnodd un dyn, pryd rydych chi am adeiladu Neuadd y Deyrnas yn y gymuned. A dywedodd: “Os bydda’ i dal o gwmpas ar ôl ichi adeiladu, mi ddoi i’r cyfarfodydd.”

Dywedodd yr arloeswyr a chafodd aseiniad i Savukoski, yn y Ffindir, lle mae tua dengwaith mwy o geirw Llychlyn na phobl: “Mae yma dymheredd isel a llawer o eira.” Er hynny, dywedon nhw fod amser eu cyrraedd yn berffaith. Pam? “Rydyn ni wedi gallu tystiolaethu yn drylwyr drwy’r diriogaeth. Mae’r ffyrdd i’r pentrefi a’r ardaloedd anghysbell yn cael sylw da a’u cadw’n glir o eira. Mae’r tymheredd oer yn achosi i bobl aros adref mwy.”

Mae ein hymdrechion i rannu gwirionedd y Beibl yng nghymunedau anghysbell gogleddol yn denu sylw. Ar ôl i’r ddau arloeswr ymweld â maer un o ddinasoedd Alasga, rhoddodd hi neges bositif ar rwydwaith cymdeithasol ynglŷn â’r sgwrs cafodd hi gyda nhw, gan atodi llun o’r daflen Beth Yw Teyrnas Dduw?

Yn Haines, Alasga, lle’r oedd dau arloeswr wedi croesawu cymaint ag wyth i’r cyfarfod yn y llyfrgell gyhoeddus, dywedodd y papur newydd lleol fod dau ddyn o Tecsas a Gogledd Carolina yn cynnig astudiaeth Feiblaidd yn y cartref. “Ewch i jw.org i ddysgu mwy,” oedd ddiweddglo’r erthygl.